Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi’i gyhuddo o roi’r bai ar ffermwyr am yr heriau presennol sy’n wynebu’r sector amaeth.
Daw’r cyhuddiadau gan Blaid Cymru yn dilyn sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog.
Yn ystod y sesiwn, dywedodd Mark Drakeford fod y sector amaeth yn y sefyllfa mae ynddi oherwydd bod ffermwyr yng Nghymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, er nad oes tystiolaeth bod mwy o ffermwyr wedi pleidleisio i adael yr Undeb nag unrhyw sector arall yng Nghymru.
Wrth ymateb i’w sylwadau, dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, y dylai’r Prif Weinidog fyfyrio ar ei agwedd ef a’i lywodraeth tuag at ffermwyr.
“Mae’n destun gofid mawr fod y Prif Weinidog yn credu ei bod yn briodol awgrymu mai ffermwyr Cymru sydd ar fai am yr heriau sy’n wynebu’r sector,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Os dilynwch chi’r rhesymeg honno i’w chasgliad, yna pobol Cymru sydd ar fai am bopeth sy’n mynd o’i le ar hyn o bryd.”
‘Llywodraethau wedi eu siomi’
Aeth yn ei flaen i ddweud bod y sector “dan warchae” a bod ffermwyr ledled Cymru wedi cael digon o gael eu siomi gan y ddwy lywodraeth.
“Mae llywodraethau naill ben i’r M4 wedi eu siomi,” meddai.
Tynnodd sylw at gytundebau masnach a wnaed gan y Ceidwadwyr “sy’n tanseilio ein sector amaeth” a’u methiant i gyfateb arian yr Undeb Ewropeaidd.
Cyfeiriodd hefyd at “wendid” y Blaid Llafur wrth ymdrin ag effaith y diciâu mewn gwartheg ar ffermydd teuluol, a’u cynllun “anymarferol” i orchuddio 10% o dir fferm gyda choed o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
“Ac ar ben hynny, mae’n rhaid iddyn nhw [ffermwyr] ddelio â llywodraeth sydd ddim yn ymddangos yn barod i wrando ar eu pryderon,” meddai.
“Boed yn ddur, boed yn lletygarwch neu fanwerthu, neu’n amaethyddiaeth, rôl Llywodraeth Cymru yw arwain partneriaeth.
“Hyrwyddo gweithwyr Cymreig. Gweithio gyda nhw. Llai o ddarlithio, mwy o wrando.
“Byddwn yn gofyn i’r Prif Weinidog fyfyrio o ddifrif ar ei sylwadau dros y ddau ddiwrnod diwethaf.”
Cynigion amgen
Atebodd Mark Drakeford drwy ddweud bod y Gweinidog Materion Gwledig eisoes wedi gosod cynigion amgen lle nad yw’n bosibl i ffermwyr gyrraedd y 10%.
“Cyn belled ag y mae plannu coed yn y cwestiwn, mae cannoedd ar gannoedd a channoedd o ffermydd yng Nghymru eisoes â 10 y cant o’u tir dan orchudd coed,” meddai.
“Nid oes neb yn cael ei orfodi i blannu coed yng Nghymru; roeddem yn benderfynol o gynnig y cyfle cyntaf i ffermwyr yng Nghymru dyfu’r coed y bydd eu hangen arnom, oherwydd bydd angen miloedd ar filoedd yn fwy o goed yng Nghymru mewn cyfnod o newid yn yr hinsawdd.”
Ond ychwanegodd y byddai ffermwyr sy’n dilyn y cynllun yn cael eu gwobrwyo.
“Lle gall ffermwyr, lle mae’n rhesymol disgwyl i ffermwyr wneud cyfraniad at liniaru newid yn yr hinsawdd, byddant yn cael eu gwobrwyo am wneud hynny yn y cynllun ffermio cynaliadwy,” meddai.