Mae’n teimlo fel bod y staff yn mynd yn brinnach a phrinnach ar gyfer nifer y cleifion sydd angen gofal, yn ôl meddyg iau sy’n streicio heddiw.

Am dridiau (Chwefror 21, 22 a 23), mae disgwyl i dros 3,000 o feddygon iau yng Nghymru streicio dros godiad cyflog.

Dyma’r eildro i feddygon iau sy’n aelodau o Gymdeithas Feddygon Prydain (BMA) streicio ers mis Ionawr, gan ddadlau eu bod nhw wedi colli tua thraean o’u cyflog ers 2008.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog o 5% iddyn nhw, gan ddweud na fedran nhw fforddio talu mwy.

Cafodd y cynnig hwnnw ei wrthod gan yr undeb y llynedd, ac maen nhw nawr yn galw am “drafodaethau ystyrlon” i fynd i’r afael â’r erydiad cyflog.

Mae golwg360 wedi gweld llythyr yn cadarnhau bod y Gwasanaeth Iechyd yn aildrefnu apwyntiadau meddygol “oherwydd amgylchiadau presennol”, a negeseuon testun yn atgoffa cleifion fod apwyntiadau wedi’u haildrefnu.

Mae gofal brys yn parhau i gael ei ddarparu yn ystod y cyfnod hwn o streicio, ac mae Judith Paget, Pennaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, yn annog pawb i helpu i leihau’r baich drwy ystyried opsiynau eraill yn lle mynd i’r ysbyty, oni bai eu bod nhw angen gofal brys.

‘Pwysau’n eithaf uchel’

Un o’r rhai fu ar y llinell biced yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân heddiw yw Dr Emily Sams, sy’n feddyg cyffredinol dan hyfforddiant yng Nghasnewydd ac yn is-gadeirydd Pwyllgor Meddygon Iau Cymru’r BMA.

Roedd cleifion yno’n “gefnogol iawn”, meddai, gan ychwanegu eu bod nhw’n deall sefyllfa meddygon iau.

“Fydd neb yn synnu bod pwysau’n eithaf uchel yn y Gwasanaeth Iechyd, rydyn ni’n gweld mwy o gleifion yn dod drwy’r drws bob blwyddyn gyda dim cynnydd yn y gweithle. Os rhywbeth mae’n lleihau,” meddai wrth golwg360.

“Rydych chi’n teimlo fel bod staff yn mynd yn brinnach a phrinnach ar gyfer y cleifion sydd yn eich gofal.

“Mae hynny’n gwneud yr amodau gwaith yn anoddach oherwydd rydych chi’n teimlo fel eich bod chi methu rhoi’r gofal rydych chi eisiau gallu ei roi i’r cleifion a’r gofal maen nhw’n ei haeddu.

“Mae hynny’n cael effaith ar forâl staff ar draws y gwasanaeth, nid meddygon iau yn unig.”

‘Trafodaethau ystyrlon’

Mae Dr Emily Sams a’r BMA yn awyddus i weld mwy o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn datrys yr anghydfod.

“Ers 2008, mae tâl meddygon iau wedi erydu tua thraean,” meddai.

“Er bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen i fynd i’r afael ag adfer cyflogau meddygon iau yn llawn ac awgrymu eu bod nhw’n barod i drafod ein codiad cyflog ar gyfer 2023-24, pan ddaethon nhw atom ni yn haf 2023 roedd ganddyn nhw un cynnig terfynol o 5%.

“Dydy hwnnw ddim hyd yn oed yn cyrraedd argymhelliad y DDRB, y corff annibynnol sy’n adolygu cyflogau.

“Mae’n cynrychioli toriad cyflog arall mewn termau real, sydd o dan chwyddiant.

“Yn y bôn, maen nhw wedi mynd yn ôl ar eu haddewid o adfer ein cyflogau llawn neu weithio efo ni i fynd i’r afael â hynny.

“Gan nad oedden nhw’n barod i drafod tu hwnt i’r 5% oedden nhw’n ei gynnig, fe wnaethon nhw ein gadael ni heb ddewis ond rhoi pleidlais i’n haelodau ar streicio.

“Fydden i’n hoffi gweld ryw fath o drafodaethau ystyrlon, dydyn ni heb gael hynny. “Doedd y trafodaethau yn yr haf ddim gyfystyr â thrafodaethau ystyrlon.

“Pan rydych chi’n dod mewn â chynnig a dweud ‘Cymerwch e neu gadewch e’, dyw hynny ddim yn drafodaeth.”

‘Haeddu bargen deg’

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi ailddatgan eu cefnogaeth i feddygon sy’n streicio hefyd, gan ddweud nad yw’r cynnydd cyflog o 5% “yn gwneud dim i godi’r pwysau ariannol sydd ar staff y Gwasanaeth Iechyd”.

“Mae ein meddygon iau yn haeddu bargen deg, un sy’n caniatáu iddyn nhw fyw yn gyfforddus fel bod eu talent yn aros yng Nghymru am y dyfodol rhagweladwy,” meddai Jane Dodds, arweinydd y blaid.

Ychwanega’r Ceidwadwyr Cymreig mai Llywodraeth Cymru sydd ar fai am y streiciau.

“Bydd y streiciau hyn yn niweidio Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, sy’n brwydro gyda’r rhestrau aros hiraf am driniaeth yn y Deyrnas Unedig yn barod, ond y Llywodraeth Lafur sydd ar fai,” meddai Russell George, eu llefarydd iechyd.

‘Siomedig ond yn deall’

Cyn y streiciau, dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, fod y Llywodraeth “bob amser yn agored i gael trafodaethau pellach ond nad oes ganddi’r gyllideb i gynyddu’r cytundeb cyflog”.

“Rydyn ni’n siomedig bod meddygon wedi penderfynu cymryd gweithredu diwydiannol pellach yng Nghymru, ond rydyn ni’n deall bod ganddyn nhw deimladau cryf am ein cynnig cyflog o 5%,” meddai.

“Mae ein cynnig ar lefel uchaf y sydd ar gael i ni ac mae’n adlewyrchu’r penderfyniad y daethom iddo gyda’r undebau iechyd eraill.

“Ond byddwn ni’n parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i drosglwyddo’r cyllid angenrheidiol ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus.

“Rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ac rydyn ni bob amser yn agored i gael rhagor o drafodaethau.”