Mae Janet Finch-Saunders, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, wedi codi pryderon yn y Senedd fod ei llety, sy’n cael ei ariannu gan Gomisiwn y Senedd, yn defnyddio cladin sydd mewn perygl o fynd ar dân.

Daw ei phryderon bron i flwyddyn ers i ddatblygwyr mawr yng Nghymru ymuno â chytundeb cyfreithiol sy’n eu hymrwymo i wneud gwaith diogelwch tân ar adeiladau canolig ac uchel ledled y wlad.

“Fis Tachwedd diwethaf, Weinidog, rhoesoch wybod i Senedd Cymru fod yna 34 o adeiladau gyda gwaith adfer ar y gweill ac amcangyfrifir y bydd 34 o adeiladau eraill yn dechrau eleni,” meddai’r Aelod dros Aberconwy.

“Mae preswylwyr yn dweud wrthyf mai dim ond un adeilad sydd wedi’i gwblhau yn sgil y cytundeb.”

Wrth ymateb i gais Janet Finch-Saunders am fwy o eglurder ynghylch sawl prosiect adfer sydd wedi’u cwblhau ers cyflwyno’r cytundeb, dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, nad yw hi’n siŵr o’r union ffigwr.

Ychwanegodd Janet Finch-Saunders nad yw sawl un o’r rheiny sydd wedi mynd allan i brynu eiddo’n ymwybodol o’r problemau cladin, a chyfeiriodd at ei phrofiad ei hun o beidio gwybod fod ei fflat yng Nghaerdydd mewn perygl.

“Felly, nid oeddem ni fel tenantiaid, nac yn wir bobol sy’n prynu’r fflatiau hyn, yn gwybod fod ganddyn nhw broblemau, felly rwy’n bryderus iawn,” meddai.

“Fel y mae, mae trigolion yn dal yn gaeth yn yr adeiladau anniogel hyn.”

Dywed fod cynllun Llywodraeth Cymru yn rhy gostus, ac nad yw’n arwain at canlyniadau y dylai fod yn eu sicrhau.

Gwahardd datblygwyr gwael?

Fodd bynnag, dywed Julie James fod meini prawf y cynllun i adfer adeiladau peryglus eisoes wedi cael eu hymestyn i sicrhau bod mwy o bobol yn gymwys.

“Mae’n gynllun llawer mwy eang nag yr oedd ar y dechrau, ac rydym wedi ysgrifennu’n ôl at bawb ymgeisiodd yn y gyfran gyntaf na lwyddodd i fynd drwy’r meini prawf gwreiddiol, llym iawn,” meddai.

“Er enghraifft, yn y dechrau, doedd pobol oedd wedi prynu’r fflat fel eiddo buddsoddi, efallai gyda’u pot ymddeol, ddim yn gallu cael mynediad i’r cynllun, ond rydym wedi ymlacio [y rheolau] fel y gallan nhw wneud hynny nawr,” meddai.

“Felly mae mwy o bobol yn gymwys, ond dw i ddim yn anghytuno ei fod yn cyfyngu’n fawr yn y lle cyntaf.”

Gofynnodd Janet Finch-Saunders a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried gwahardd datblygwyr gwael rhag adeiladu eto yn y dyfodol.

“Mae’r Gwir Anrhydeddus Michael Gove wedi datgan— lle mae datblygwyr yn dangos arferion gwael, na fyddan nhw yn gallu adeiladu eto. Ydych chi’n rhannu’r meddyliau hynny?” meddai.

Dywedodd Julie James, er ei bod hi’n deall y rhwystredigaeth o weld datblygwyr gwael yn ailadeiladu, fod y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer adeiladu gwahanol fathau o adeiladau yn amrywio.

“Rwy’n deall yn llwyr rwystredigaeth pobol sy’n gweld cartrefi newydd yn cael eu codi gan yr un cwmni â’r un adeiladodd y bloc maen nhw ynddo sydd â’r problemau, ond yn amlwg mae’r setiau o sgiliau ac anawsterau wrth adfer bloc unardddeg llawr yn hollol wahanol i adeiladu adeilad newydd; mae’n gyfres hollol wahanol o broblemau,” meddai.

“Rwy’n gwybod nad yw pobol eisiau clywed hynny, ond mae’n wir.”