Mae Sue Jones-Davies, yr actores a chyn-Faer Aberystwyth, wedi sefydlu deiseb yn galw am fwy, nid llai, o gyllid i’r Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol.

Yn y ddeiseb, mae hi’n galw am “dyfu gwariant ar sefydliadau sy’n diogelu treftadaeth a hanes Cymru… ac nid torri’r cyllid o 10.5%-22.3%”.

Dywed fod y sefydliadau’n “gwarchod gwaddol hanes a diwylliant ein cenedl”, a hynny drwy ei gasglu ynghyd a’i arddangos i bawb sy’n byw yng Nghymru.

Dywed ymhellach eu bod nhw hefyd yn “gosod ffenest i’r byd o’n hanes unigryw”.

Toriadau

“O ystyried bod buddsoddiad yn y sector o £1 yn dod â thwf o £5 i’r economi, nid yw’r arbedion o 0.02% i’r cyllideb cenedlaethol yn gwneud synnwyr,” medd y ddeiseb wedyn.

“Gyda thoriadau llym i gyllidebau ysgolion, a chymdeithas yng Nghymru yn wynebu heriau tlodi a diffygion mewn darpariaeth iechyd a gofal, mae cyn bwysiced ag erioed dal gafael ar ganolfannau sy’n cynnal a thyfu ein gwlad a’n cymunedau, gan ganiatau i’r cenedlaethau a ddaw adeiladu ar seiliau cadarn llwyddiannau’r gorffennol.”

Llyfrau

Toriadau arfaethedig yn “peryglu llenyddiaeth y wlad yn ddifrifol”

Alun Rhys Chivers ac Elin Wyn Owen

Mae Cyhoeddi Cymru a gwasg Y Lolfa ymhlith y rhai sydd wedi ymateb