Yn 2008, roeddwn wrthi’n astudio am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Lerpwl. Mewn sawl ffordd, roedd y ddoethuriaeth yn fy siwtio gan ei bod hi’n ymwneud â iechyd pobol yn eu bywydau beunyddiol, ac yn benodol y sawl sydd â phrofiadau anghyffredin a thu hwnt i esboniadau cyffredin ym maes meddygaeth. Roedd hi hefyd, yn bennaf, am gyfathrebu – neu am bobol yn siarad – ac mi wnes i ddysgu llwyth o bethau diddorol am hynny drwy ‘ddadansoddiad sgwrs’.
Rwy’n browd iawn, felly, o’r traethawd hir llwyddais i’w sgwennu. Ond rywle yn ystod y broses o wneud y gwaith ymchwil a mynychu sesiynau technegol iawn yn y gwyddorau cymdeithasol, sylweddolais taw’r hyn oedd wir yn mynd â ’mhryd oedd llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol.
Ac yn nodweddiadol ohonof fi, des yn gwbl obsessed hefo Jean Rhys am gyfnod, a darllen pob dim roedd hi erioed wedi’i sgwennu, ac yna bob dim oedd wedi cael ei sgwennu amdani hi (heblaw am Barred, ac os oes gan rywun fynediad at gopi ohoni, heb orfod talu crocbris, rhowch wybod!) Wnes i hyd yn oed ‘mofyn y persawr ‘L’Heure Bleue’…
Teg dweud, felly, fy mod yn gwybod cryn dipyn am Jean Rhys wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben, a sylweddolais fod fy ngharreg filltir i – o droi’n 30 oed – yn cyd-fynd â charreg filltir i Jean, sef 30 mlynedd ers iddi farw. Teimlais fy mod i mewn lle da i sgwennu pwt yn dathlu gwaith Jean i nodi’r achlysur.
Pwy gaiff sgwennu am Jean?
Ar y pryd, roeddwn yn ddarllenwr brwd o sawl un o’r cylchgronau llenyddol ac wedi tanysgrifio i rai ohonyn nhw. Dewisais yr un roeddwn yn teimlo ei fod yn fwyaf priodol, a sgwennais e-bost frwdfrydig atyn nhw. Syndod mawr oedd yr ymateb ges i.
O oedden, mi oedden nhw yn ymwybodol o’r garreg filltir, diolch yn fawr. Ac efallai y bydden nhw’n cynnwys traethawd am Jean yn y misoedd nesaf. OND… roedd trwch y cylchgrawn yn waith oedd yn cael ei gomisiynu, yn hytrach na syniadau oedd yn cael eu cynnig gan y cyhoedd. Ymhellach, tasen nhw yn comisiynu rhywun, bydden nhw’n siŵr o ddewis ‘Athro’ Llenyddiaeth neu sgwennu creadigol – ‘arbenigwr yn y maes’. Waw! A dyna fy rhoi i yn fy lle, ynte?
Felly, doedden nhw ddim hyd yn oed eisiau gweld ansawdd fy ngwaith, a doedd dim diben i mi sgwennu unrhyw beth, oherwydd y peth pwysig oedd fy swydd – neu ddiffyg swydd – a’r statws cysylltiedig.
Ac oni bai fy mod am newid cyfeiriad yn gyfan gwbwl ac astudio gradd newydd, doethuriaeth newydd, ac wedyn gweithio tuag at fod yn Athro, doedd dim modd i mi fyth sgwennu am Jean… wel, ddim i’w cylchgrawn nhw, beth bynnag!
Ac mae yna eironi hyfryd yma, on’d oes? Wnaeth Jean ddim astudio am radd o gwbl, heb sôn am un mewn llenyddiaeth neu ysgrifennu creadigol. Mi wnaeth hi ddau dymor yn RADA cyn i’r athrawon ofyn i’w thad ei symud hi, oherwydd bod ei hacen Garibîaidd yn tanseilio’i gobeithion o fod yn actores. Bu’n gweithio fel ‘Chorus girl’ am gyfnod, yna’n byw bywyd ansicr iawn, gan fwhwman o amgylch gwestai rhad, bwytai, tafarndai, a chlybiau nos; dyma pam roeddwn i mor obsessed hefo hi a’r hyn roedd hi’n sgwennu amdano!
Hefyd, roedd gan Jean iechyd bregus gydol ei hoes, a lot o symptomau megis blinder parhaol, poen, iselder, pryder ac ati sydd yn rhan o faes Symptomau Heb Esboniad Meddygol – SHEM (fy mathiad i yn y Gymraeg!) Mae fy iechyd i yn debyg iawn i’r hyn rydym yn gwybod am ei hiechyd hi, a dyna’r rheswm i mi ddewis astudio am ddoethuriaeth yn y maes.
A heb eisiau gor-ddweud yn fa’ma, rhan o athrylith Jean oedd cyfleu sut mae pobol yn bihafio a chyfathrebu, gan gynnwys peidio dweud beth maen nhw wir yn ei olygu – sy’n thema fawr ym maes dadansoddiad sgwrs ac yn y data wnes i ei gasglu yn ystod fy noethuriaeth.
Ond ta waeth, teg dweud na fyddai Jean ei hun yn cael ei chofleidio gan y cylchgrawn, sy’n dangos pa mor wirion oedd yr holl beth!
Y sgwrs am werth y celfyddydau
Yn ddiweddar, cafodd toriadau mawr eu cyhoeddi ym maes y celfyddydau yng Nghymru, a wnaeth Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau, alw am drafodaeth genedlaethol am werth y celfyddydau. Wnaeth o hefyd dynnu’n gryf ar y cysylltiadau rhwng iechyd a’r celfyddydau, gan danlinellu’r ffaith fod buddsoddiad yn y celfyddydau yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles y cyhoedd.
Gyda fy mywyd a phersbectif Persephonaidd rhwng maes iechyd a’r celfyddydau, rwy’n cytuno’n llwyr â hyn. OND… yn fy marn bersonol i, dylai unrhyw fuddsoddiad yn y celfyddydau fod mewn pethau sydd yn eiddo i bawb ac o fudd i bawb, ac nid dim ond y sawl sydd â gradd a doethuriaeth yn y celfyddydau, ac sydd wedi llwyddo cael cadair yn y maes maen nhw’n arbenigo ynddo.
Wrth gwrs, fel rhywun sydd â doethuriaeth, ac sydd yn parhau i weithio yn y byd academaidd, gan gynnwys ysgrifennu creadigol a’r celfyddydau, rwy’n gweld gwerth mewn cyfnodolion a chylchgronau o safon – hyd yn oed rhai uchel ael.
Ond fel rhywun sydd hefyd wedi bod yn dlawd ac yn ddi-gartref yn Wrecsam, heb gymwysterau na mynediad at unrhyw gelfyddydau, rwy’ hefyd yn teimlo bod angen ystyried yn ofalus y cydbwysedd yn yr hyn gaiff ei gynhyrchu, a chan bwy; yn sicr lle mae arian cyhoeddus yn y cwestiwn.
Ac i gloi, wrth ystyried ‘gwerth fy ngwaith’ yn y celfyddydau, dwi’n teimlo bod angen llai o bwyslais ar fod yn un o’r enwogion o fri, a mwy o werthfawrogiad o’r gwaith mae rhywun yn ei gynhyrchu; fel hyn, medrwn gynnwys pawb a chael budd o’u syniadau, eu diwylliant a’u cyfraniad.