Mae holl enillwyr Gwobrau’r Selar bellach wedi’u cyhoeddi, ar ôl wythnos o ddathlu a datgelu mewn cydweithrediad â BBC Radio Cymru.

Cafodd enwau enillwyr y ddau gategori oedd yn weddill eu cyhoeddi gan Ifan Sion Dafydd, oedd yn cadw sedd Huw Stephens yn gynnes ar ei raglen, neithiwr (nos Iau, Chwefror 15).

Cyhoeddodd mai trefnwyr gigs Tin Sardines yn Arfon sydd wedi dod i frig y bleidlais gyhoeddus yn y categori ‘Seren y Sin’ ar gyfer 2023, a datgelodd hefyd mai Mellt, gyda’r albwm Dim Dwywaith, yw enillwyr y wobr am y Record Hir Orau.

Roedd y cyhoeddiadau diweddaraf yn benllanw wythnos o ddathlu’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes ar donfeddi Radio Cymru a thu hwnt, gydag unarddeg o Wobrau’r Selar yn cael eu cyflwyno i gyd.

Gwobrau i’r profiadol a newydd

Y wobr gyntaf i’w chyflwyno oedd honno am y ‘Cyfraniad Arbennig’.

Yr enillydd, gafodd ei gyhoeddi yn fyw ar raglen Rhys Mwyn nos Lun (Chwefror 12), yw Gai Toms, dderbyniodd y wobr am ei gyfraniad mawr i gerddoriaeth dros y tri degawd diwethaf.

Roedd yn amlwg wedi’i synnu wrth i Rhys Mwyn dorri’r newyddion yn ddi-rybudd iddo mewn sgwrs ar yr awyr.

Er gwaethaf barn y cerddor nad oedd yn ddigon hen i dderbyn gwobr fel hon, does dim gwadu ei fod wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gerddoriaeth ers blynyddoedd maith, medd y trefnwyr.

Gwnaed y cyhoeddiadau nesaf ar raglen Ifan Jones Evans brynhawn Mawrth (Chwefror 13), a thro’r genhedlaeth iau oedd hi, gyda Dadleoli’n enillwyr gwobr ‘Band neu Artist Newydd Gorau 2023’ a hefyd y wobr am y ‘Record Fer Orau’.

Roedd Efan, canwr y band o Gaerdydd sydd dal yn yr ysgol yn astudio ar gyfer TGAU, yn westai ar raglen Ifan Jones Evans, ac roedd yn dipyn o sypreis iddo yntau hefyd wrth i’r cyflwynydd dorri’r newyddion iddo ar ddiwedd eu sgwrs.

Roedd cyfle am ddau gyhoeddiad arall ddydd Mawrth hefyd, a hynny ar raglen Georgia Ruth gyda’r hwyr.

Datgelodd yn gyntaf mai Malan sydd wedi dod i frig y bleidlais yn y wobr am yr ‘Artist Unigol Gorau’, ac yna mai clawr yr albwm Fel Hyn Fel Arfer gan Y Cledrau sydd wedi’i ddewis gan y cyhoedd fel y ‘Gwaith Celf Gorau’.

“Dwi mor hapus, dwi’n caru pan ma Gwobrau’r Selar yn dod o gwmpas bob blwyddyn a ma’n nuts meddwl bod fi wedi ennill Artist Unigol Gorau, ma’n crazy” meddai’r gantores.

“Yn bendant blwyddyn diwethaf [2023] oedd y flwyddyn mwyaf exciting eto i fi. Nes i ryddhau EP cyntaf…ma hwna’n gorfod bod yr uchafbwynt a wedyn es i ar daith bach tiny efo’r EP, dau beth o’n i heb wneud o’r blaen a nes i rili mwynhau’r profiad.”

Cân, fideo a Gwobr 2023

Dechreuodd y cyhoeddiadau’n gynnar ddydd Mercher (Chwefror 14), wrth i Aled Hughes ddatgelu enillydd y wobr am y ‘Gân Orau’ ar ei raglen foreol.

‘Bolmynydd’ gan Pys Melyn ddaeth i frig y bleidlais y tro hwn, ac roedd sgwrs gyda Ceiri Humphreys o’r band ar y rhaglen, fu’n egluro cefndir y gân, sef mai traeth ydy ‘Bolmynydd’ iddo fe, ond mai maes carafanau yw e i nifer.

Does dim amheuaeth ei bod yn gân hafaidd sydd wedi dal dychymyg nifer.

Roedd dau gyhoeddiad pellach yn ddiweddarach ar raglen Mirain Iwerydd yn y nos.

Un o’r rhain oedd y wobr am y ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’, gyda Gwcci yn fuddugol am y fideo i’w cân ‘Hotel’, gafodd ei chyfarwyddo gan Dan Jardine.

‘Gwobr 2023’ oedd nesaf, a honno’n wobr sydd wedi dod yn arwyddocaol iawn dros y blynyddoedd diwethaf.

Yr enillydd eleni yw Tara Bandito.

Cafodd y wobr arbennig hon ei sefydlu yn 2020 – blwyddyn na welwyd ei thebyg o’r blaen, ac un gododd lawer o gwestiynau pwysig ynglŷn ag amrywiaeth a chynrychiolaeth.

Eädyth oedd enillydd y wobr gyntaf, ac ers hynny mae wedi’i chyflwyno i griw Merched yn Gwneud Miwsig yn 2021 ac yn Izzy Rabey yn 2022.

Mae Tara Bandito yn enillydd teilwng iawn yn ôl Y Selar.

“Mae’r sawl sydd wedi derbyn y wobr bob tro wedi bod yn llais ar gyfer grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn y sin gerddoriaeth ac yn bobl sydd wedi gwneud gwahaniaeth dros y flwyddyn a fu yn nhyb tîm golygyddol Y Selar,” meddai Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar.

“Heb amheuaeth mae Tara wedi gwneud hynny yn ystod 2023. Mae wedi bod yn llais cryf dros ferched yn enwedig, ac wedi ysbrydoli degau os nad cannoedd o ferched ifanc. Mae hefyd yn gyson wedi ysgogi trafodaeth am iechyd meddwl ac wedi ysgogi eraill i deimlo’n gyfforddus i drafod y pwnc pwysig hwnnw.

“Ar ben hyn oll, mae wedi arloesi gyda’i cherddoriaeth a pherfformiadau anhygoel – mae’n amhosib anwybyddu artist sydd gyda tiŵns a mŵfs fel Tara Bandito.

“Mae hefyd wedi mynd â cherddoriaeth Gymraeg allan i gynulleidfa newydd, a’r peth gorau ydy, mae rhywun yn synhwyro bod llawer iawn mwy i ddod ganddi!”

Gwobrau dydd Iau, a chelf cadeiriau

Roedd tair gwobr ar ôl i’w cyhoeddi ddydd Iau (Chwefror 15), felly, gan ddechrau gyda’r Band Gorau.

Tasg Aled Hughes ar ei raglen fore oedd cyhoeddi mai Fleur de Lys sydd wedi dod i frig y bleidlais yn y categori cystadleuol yma eleni, ac roedd ffryntman y band, Rhys ar y rhaglen i glywed y newyddion.

Cafodd enillwyr dwy wobr arall eu cyhoeddi ar raglen Huw Stephens gyda’r hwyr, gafodd ei chyflwyno gan Ifan Siôn Davies.

Mae’r wobr am y ‘Record Hir Orau’ bob amser yn uchafbwynt, a’r tro hwn cyfle Mellt yw hi i gipio’r anrhydedd am eu hail albwm, Dim Dwywaith.

Dim ond un wobr ar ôl, felly, a honno’n un sy’n cydnabod arwyr llai amlwg y sin – y bobol sy’n gwneud y gwaith pwysig o hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, yn aml tu ôl i’r llenni heb fawr o glod am wneud hynny.

Enillwyr gwobr Seren y Sin y tro hwn yw criw Gigs Tin Sardines, sydd wedi gweithio’n ddyfal i lwyfannu gigs rheolaidd yn ardal Caernarfon dros y flwyddyn ddiwethaf, gan fynd o nerth i nerth.

Bydd yr enillwyr i gyd yn derbyn gwobr arbennig wedi’i chreu gan yr artist ifanc Luke Cotter, sydd yn ei ail flwyddyn yng ngholeg Gelf Abertawe.

Mae ei waith celf yn wreiddiol iawn, ac mae’n defnyddio deunyddiau mae wedi’u darganfod i greu cerfluniau sy’n debyg iawn i ddodrefn.

Wrth wneud y gwobrau, seiliodd ei ddyluniadau ar gadair y beirdd o’r Eisteddfod, gan ddefnyddio deunyddiau gafodd hyd iddyn nhw o amgylch Abertawe i’w troi’n fersiynau bach o’r darn eiconig hwnnw o ddodrefn Cymreig sydd wedi bod yn wobr i lawer o artistiaid Cymreig yn y gorffennol.

Mae hyn yn cydymffurfio’n dda i waith arferol Luke gan ei fod yn aml yn ceisio ail-greu ac ail-ddychmygu celfi a ffurfiau o hanes megis cadeiriau, soffas, desgiau, soffa lewygu a ffurfiau mwy haniaethol o ddodrefn.

Rhestr lawn enillwyr Gwobrau’r Selar

Cân Orau: ‘Bolmynydd’ – Pys Melyn

Gwaith Celf: Fel Hyn Fel Arfer – Y Cledrau

Artist Unigol Gorau: Malan

Band neu Artist Newydd Gorau: Dadleoli

Band Gorau: Fleur de Lys

Fideo Gorau: ‘Hotel’ – Gwcci

Record Fer Orau: Diwrnodau Haf – Dadleoli

Record Hir Orau: Dim Dwywaith – Mellt

Seren y Sin: Criw Tin Sardines

Cyfraniad Arbennig: Gai Toms

Gwobr 2023: Tara Bandito