Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor y Celfyddau wedi cyhoeddi ‘Gŵyl Dewi’ ar Ddydd Gŵyl Dewi (Mawrth 1) eleni.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau’n ymwneud â diwylliant a phêl-droed yn cael eu cynnal mewn amryw o leoliadau cymunedol ar draws y wlad dros benwythnos Gŵyl Ddewi – o Abertawe i Wrecsam, o Bontypridd i Lanuwchllyn, ac o Gaerfyrddin i Ddolgellau.

Ymhlith y digwyddiadau fydd gigs, sgyrsiau a gweithgareddau cymunedol, gyda gwesteion o’r byd pêl-droed yn ymddangos yn rhai o’r digwyddiadau hynny.

Mae’r bartneriaeth rhwng y ddau sefydliad yn parhad o gysylltiad gafodd ei sefydlu ers Cwpan y Byd 2022, arweiniodd at sefydlu Gŵyl Cymru.

Nod y digwyddiad eleni, fydd yn cael ei gynnal ar Fawrth 1 a 2, yw rhoi llwyfan i bobol ledled y wlad i ddathlu diwrnod ein nawddsant a lle pêl-droed a’r diwylliant wrth galon y genedl.

Bydd gigs a pherfformiadau’n cael eu cynnal mewn lleoliadau annibynnol a thafarndai cymunedol ar draws y wlad, gyda’r sefydliadau’n awyddus i ddychwelyd i’r cymunedau gefnogodd ymgyrch hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA yn 2022, drwy eu gwahodd i gyd-ddathlu.

Ymhlith y lleoliadau a’r grwpiau cymunedol sy’n rhan o’r dathliadau mae Neuadd Ogwen, Cell B, Porter’s a Gŵyl Arall.

Bydd tafarndai sy’n eiddo i’r gymuned gan gynnwys Y Plu, Tafarn yr Eagles a Thafarn Sinc yn cynnal digwyddiadau, ac mae mwy o ddigwyddiadau’n cael eu trefnu.

‘Dathlu diwylliant anhygoel Cymru gyda’n gilydd’

“Mae’n bwysig ein bod ni, ar ein diwrnod cenedlaethol, yn gallu dathlu diwylliant anhygoel Cymru gyda’n gilydd!” meddai Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Rwy’n falch bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru unwaith eto yn gweithio ochr yn ochr â’n partner, Cyngor Celfyddydau Cymru, i gynnig dathliad o bêl-droed a’r celfyddydau mewn cymunedau ledled Cymru dros benwythnos Gŵyl Dewi.

“Mae ein cysylltiadau â chymunedau trwy bêl-droed yn werthfawr iawn, ac rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd i’r lleoliadau gefnogodd Ŵyl Cymru yn ystod ein hantur Cwpan y Byd yn 2022.

“Rydym am i bawb wneud y gorau o benwythnos Gŵyl Dewi trwy fynychu digwyddiadau yn lleol.”

Partneriaeth “unigryw ac arbennig”

“Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch iawn o gael cydweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru unwaith eto,” meddai Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Datblygu Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Mae partneriaeth Gŵyl Cymru yn un unigryw ac arbennig, gydag ymrwymiad i rymuso a dathlu cymunedau Cymru yn ganolog iddi.

“Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau yn dod ag angerdd ein cenedl am bêl-droed a’r celfyddydau ynghyd ag arddangos doniau creadigol eithriadol.

“Eleni, byddwn yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ym mhob cornel o Gymru gyda canu, sgyrsiau – a llawer o hwyl!”