Mae Neil Warnock, cyn-reolwr tîm pêl-droed Caerdydd, wedi cymharu system VAR – y dyfarnwr fideo – â system gyfrifiadurol Horizon oedd yn ganolog yn helynt Swyddfa’r Post.

Arweiniodd nam gyda Horizon, system gyfrifiadurol Fujitsu, at ganfod cannoedd o is-bostfeistri yn euog o dwyll ariannol, gyda rhai ohonyn nhw’n cael eu carcharu ac eraill wedi lladd eu hunain yn sgil yr helynt.

VAR yw’r system gyfrifiadurol sy’n helpu dyfarnwyr i ddod i benderfyniadau ynghylch goliau.

Doedd Neil Warnock, sydd bellach yn rheolwr ar dîm Aberdeen yn yr Alban, ddim yn hapus ar ôl i gôl fuddugol ei dîm yn erbyn Motherwell gael ei chanslo wrth i VAR benderfynu bod chwaraewr yn camsefyll o drwch blewyn.

VAR

“Naddo, dywedodd e fod VAR yn gyfrifiadur – dw i’n credu mai cyfrifiadur Horizon yw e!” meddai Neil Warnock yng nghynhadledd y wasg â’i dafod yn ei foch, gan wneud i’r gohebwyr chwerthin.

“Wnes i feddwl am hynny – a daeth e’n syth ata’i!”

Cadeirydd Swyddfa’r Post wedi’i symud o’i swydd gan Lywodraeth San Steffan

Daw’r newyddion am Henry Staunton yn sgil ffrae am helynt Horizon

Is-bosfeistr gafodd ei garcharu ar gam eisiau gweld terfyn ar gytundebau Cymreig Fujitsu

Dywed Noel Thomas ei fod e “wedi siomi” bod y cytundebau’n parhau

Fujitsu yn ymddiheuro am rôl y cwmni yn sgandal Swyddfa’r Post

Y cwmni yn cydnabod eu rôl yn helpu i erlyn cannoedd o is-bostfeistri yn dilyn helynt Horizon