Mae Henry Staunton, cadeirydd Swyddfa’r Post wedi’i symud o’i swydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, tros ffrae am helynt Horizon.

Mae lle i gredu bod Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn anfodlon ynghylch llywodraethiant Swyddfa’r Post.

Cafodd ei benodi fis Rhagfyr 2022, ond ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, fe gafodd ei ddiswyddo gan Kemi Badenoch, Ysgrifennydd Busnes San Steffan.

Bydd y llywodraeth yn chwilio am gadeirydd newydd, wrth iddyn nhw ddechrau’r broses o roi iawndal i gannoedd o is-bostfeistri gafwyd yn euog ar gam o dwyll ariannol, ar ôl iddi ddod i’r amlwg mai nam ar raglen gyfrifiadurol Fujitsu oedd ar fai.

Mae’r helynt wedi’i ddisgrifio fel yr achos gwaethaf erioed o gamweinyddu cyfiawnder yng ngwledydd Prydain.

Fe fu sawl ffrae yn ddiweddar rhwng Swyddfa’r Post a’r llywodraeth, yn enwedig ynghylch penodi penaethiaid newydd a thaliadau i benaethiaid presennol oedd â rhan yn yr helynt.

Mae llefarydd ar ran y llywodraeth yn dweud bod Henry Staunton wedi cytuno i adael ei swydd, ond dydy e ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.