Bore Gwener, tu fa’s i Swyddfa’r Post, mi welais Porsche. Un bach ydoedd, deg pwys erbyn hyn, yn cysgu’n dawel braf.
Yn ôl arolwg diweddar, mae mwy a mwy o rieni yn dewis enwi eu plant ar ôl nwyddau arbennig. Mae Porsche fach yn enghraifft o hynny. Dychmygwch stafell ddosbarth yn rhywle yng Nghymru yfory, ac ynddi mae Chanel Evans, Armani Morgan, Chivas Regal Jones, ac efallai hyd yn oed Pepsi Thomas, Tom Ford Williams, Versace Edwards a Coco Hughes-Thomas.
Mae dewis enw i’r bychan wedi bod yn beth lletchwith erioed, ac mae’n anodd darogan am faint fydd y duedd o fenthyg enwau nwyddau arbennig yn enwau i’n plant yn parhau. Credaf fod yr enwau ddewiswn i’n plant yn dangos beth sydd wir yn bwysig i ni. Oni chawn gipolwg ar ogwydd ein cymdeithas pan welwn rieni’n dewis galw’r plentyn yn Chardonnay?
Wrth hel meddyliau i’r golofn hon heddiw, mi ddois ar draws cyfeiriad at Belief Brands. Yn ôl dewiniaid hysbysebu, mae ambell gwmni masnachol bellach yn frand, ac fel brand yn cynnig nid yn unig pethau i ni eu prynu, ond hefyd set o gredoau i ni fyw ein bywyd wrthyn nhw. Ymhlith y Belief Brands mae Disney, sydd yn esbonio pam fod pobol yn tyrru i Disney World i briodi. Harley-Davidson yn un arall – os ydych yn berson Harley-Davidson o’ch corryn i’ch sawdl, pan ddaw eich amser i ymadael â’r byd hwn, fe allwch gael eich claddu mewn arch a wnaethpwyd yn arbennig gan y cwmni hwnnw. Dyna beth yw arallgyfeirio! Fe berthyn yr hen Calfin hefyd i’r Belief Brands. Nid John, ond Klein. Ydy, mae Calvin Klein yn perthyn i’r Belief Brands, neu Brief Brand o bosib!
Wrth gwrs bod yn rhaid i bobol gael credu mewn rhywbeth. Ond does bosib fod gwell pethau i gredu ynddyn nhw na gwin a cheir, beiciau modur a dillad isaf!