Mae pryderon ar ôl i Harry Wilson, blaenwr Cymru, gael anaf i’w ysgwydd.

Fe ddigwyddodd yr anaf yn ystod hanner cyntaf gêm Fulham yn erbyn Newcastle yng Nghwpan FA Lloegr nos Sadwrn (Ionawr 27).

Bydd Cymru’n herio’r Ffindir yng Nghaerdydd yn rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle Ewro 2024 ar Fawrth 21.

Pe baen nhw’n ennill, byddan nhw’n wynebu Gwlad Pwyl neu Estonia yn y rownd derfynol am le yn eu pedwerydd twrnament allan o’r pum diwethaf.

Dyma fyddai’r trydydd tro iddyn nhw gyrraedd rowndiau terfynol yr Ewros, a’r trydydd tro yn olynol ar ôl cyrraedd y twrnament yn 2016 a 2020 (gafodd ei gynnal yn 2021).