Mae Erik ten Hag, rheolwr tîm pêl-droed Manchester United, yn dweud ei fod e’n edrych ymlaen at herio “tîm o safon is”, wrth iddyn nhw deithio i Gasnewydd ddydd Sul (Ionawr 28, 4.30yp).

Mae 50 o safleoedd rhwng y tîm o Fanceinion, sy’n wythfed yn Uwch Gynghrair, a’r Alltudion yn yr Ail Adran.

Mae’r holl docynnau ar gyfer y gêm fawr ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr wedi’u gwerthu, ac fe fu’n rhaid i Gasnewydd osod eisteddle dros dro newydd ar gyfer yr achlysur yn sgil y galw am docynnau.

Dyma’r tro cyntaf erioed i’r ddau dîm gwrdd, ac fe ddaw’r gêm ar ôl buddugoliaethau dros Oldham, Barnet ac Eastleigh yn y rowndiau blaenorol.

Ond mae gan Gasnewydd enw da am guro’r timau mawr yn y gwpan – does ond angen gofyn i Gaerlŷr a Leeds – ac fe fu bron iddyn nhw godi ofn ar Spurs, wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal ar un o gaeau enwoca’r byd, Wembley.

Mae gan Gasnewydd berchennog newydd mewn da bryd ar gyfer yr ornest hefyd, yn dilyn y cyhoeddiad fod Huw Jenkins, cyn-gadeirydd Abertawe, wedi’i gymeradwyo gan y cefnogwyr yr wythnos hon, ac fe fydd e’n berchen ar 52% o gyfrannau’r clwb.

Gwaetha’r modd, bu’n rhaid cau’r swyddfa docynnau cyn y gêm fawr yn sgil staff yn cael eu sarhau wrth i bobol heidio yno i sicrhau eu seddi.

Cyffro

Er bod bwlch mawr rhwng y clybiau o ran eu statws a’u henwogrwydd ar draws y byd, mae cefnogwyr Casnewydd yn edrych ymlaen at y gêm, ac fe fu un ohonyn nhw’n siarad â golwg360 am fanteision y gêm i’r clwb.

Yn ôl Ben Moss, gallai’r arian o’r ornest fawr “sicrhau ffyniant y clwb yn y dyfodol”.

Ac mae Erik ten Hag yn dweud y bydd ei dîm yn parchu Casnewydd er eu bod nhw’n “dîm o safon is”.

“Yn yr Iseldiroedd, rydyn ni hefyd yn chwarae gemau yn erbyn timau o safon is yn y gwpan,” meddai.

“Bob tro rydych chi’n mynd, fel clwb mawr, mae’n fater o sut rydych chi’n mynd o gwmpas hynny.

“Dydyn ni’n sicr ddim mewn sefyllfa i danbrisio unrhyw wrthwynebydd.”