Mae cefnogwyr Cymraeg clybiau pêl-droed Casnewydd a Manchester United wedi bod yn siarad â golwg360 wrth ymateb i’r gêm gwpan fawr rhwng y ddau dîm ar Ionawr 28.
Bydd y clwb sy’n chwarae yn yr Ail Adran yn croesawu un o fawrion y byd pêl-droed i Rodney Parade ar gyfer y gêm fawr yn y bedwaredd rownd, ar ôl curo Eastleigh o 3-1 yn y drydedd rownd nos Fawrth (Ionawr 16).
Mae Casnewydd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n codi eisteddle dros dro ar gyfer y gêm, ac mae un o gefnogwyr yr Alltudion yn gweld manteision ariannol mawr i’r clwb yn sgil yr ornest.
Wrth siarad â golwg360 am y gêm sydd i ddod yn y rownd nesaf, dywed Ben Moss nad “y canlyniad sy’n bwysig, ond yr arian sy’n gallu sicrhau ffyniant y clwb yn y dyfodol”.
“Dw i wrth fy modd ac yn edrych ymlaen yn fawr,” meddai.
“Roeddwn i’n pryderu am y tymor hwn yn ôl ym mis Awst, oherwydd y gyllideb fach sydd gyda ni.
“Ond mae [y rheolwr, Graham] Coughlan wedi gwneud jobyn da iawn.
“Gyda pherchennog newydd [Huw Jenkins, cyn-gadeirydd Abertawe] ar y gweill, mae’n amser cyffrous i fod yn gefnogwr Casnewydd.”
‘Tyfu’r clwb’
Dywed Ben Moss y gall gemau mawr fel yr un hon dyfu’r clwb – ond mae yna ochr arall i’r geiniog honno hefyd.
“Dyna’r peth pwysica i ni, a bydda i’n croesawu pob un ‘ffan plastig’, a gobeithio eu gweld nhw eto!” meddai, â’i dafod yn ei foch.
“Gwelon ni dwf yn ein tyrfaoedd wedi i ni chwarae yn erbyn clybiau mawr yn y gorffennol, a dyna’r bwriad unwaith eto.
“A phwy a ŵyr beth fydd yn digwydd.”
Ond beth am y canlyniad?
Mae Casnewydd yn adnabyddus am guro Spurs, Middlesbrough a Chaerlŷr dros y blynyddoedd diwethaf, ond a fydd Manchester United gam yn rhy bell iddyn nhw?
“Croesi bysedd am gêm gyfartal, ac ailchwarae yn Old Trafford,” meddai Ben Moss wrth ddarogan y canlyniad.