Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n codi eisteddle dros dro ar gyfer 1,000 yn rhagor o bobol yn Rodney Parade.

Daw’r cyhoeddiad wrth iddyn nhw baratoi i herio Manchester United yng Nghwpan FA Lloegr.

Ond bydd y gwaith yn dechrau mewn da bryd ar gyfer y gêm yn erbyn Wrecsam yn yr Ail Adran ddydd Sadwrn (Ionawr 20), ar ôl i’r holl docynnau gael eu gwerthu yr wythnos ddiwethaf.

Bydd yr eisteddle wedyn yn aros yn ei lle ar gyfer y gêm gwpan.

Bydd costau’r tocynnau ychwanegol yn talu am yr eisteddle ar gyfer y ddwy gêm.

Bydd 400 o seddi ychwanegol yn cael eu codi ar gyfer cefnogwyr y tîm oddi cartref, a hynny er mwyn bodloni’r rheolau ar nifer y cefnogwyr oddi cartref sy’n cael mynd i wylio gemau cwpan.

Bydd y seddi hynny wedyn yn aros ar gyfer y gemau yn erbyn Wrecsam, Swindon a Notts County.