Dafydd Jenkins fydd yr ail berson ieuengaf i arwain tîm dynion Cymru ar y cae rygbi yn ystod y Chwe Gwlad, ac mae’r penodiad yn “dipyn o ddatganiad” gan Warren Gatland, yn ôl un sylwebydd.
Yn absenoldeb Jac Morgan a Dewi Lake yn sgil anafiadau, y clo 21 oed fydd yn arwain Cymru yn ystod y bencampwriaeth.
Mae anafiadau ac ymddeoliadau yng ngharfan Cymru wedi golygu nad oedd gan Warren Gatland “lot o opsiynau” wrth fynd ati i ddewis ei garfan ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 16), meddai’r sylwebydd rygbi Cennydd Davies wrth golwg360.
Fe wnaeth y cyhoeddiad annisgwyl fod yr asgellwr Louis Rees-Zammit yn symud i’r Unol Daleithiau i ddilyn gyrfa mewn pêl-droed Americanaidd olygu fod cyhoeddiad y garfan yn hwyr hefyd.
Mae’r garfan sydd wedi’i henwi gan Warren Gatland yn cynnwys pum chwaraewr sydd heb ennill cap eto, ac wyth arall sydd wedi cynrychioli’u gwlad, ond ddim yn y Chwe Gwlad.
‘To ifanc ac ailadeiladu’
Er mai dim ond deuddeg o gapiau sydd gan Dafydd Jenkins dros Gymru, dywed y prif hyfforddwr Warren Gatland fod ei broffesiynoldeb wedi gwneud argraff arnyn nhw.
“[Mae’r newydd] yn llai o syndod oherwydd yr anafiadau; mae Jac Morgan a Dewi Lake wedi’u hanafu,” meddai Cennydd Davies wrth golwg360.
“Mae’n dipyn o ddatganiad, efallai, i Warren Gatland roi’r cyfrifoldeb i rywun ifanc fel Dafydd Jenkins; mae’n dangos faint o edmygedd sydd gyda fe fel chwaraewr a rhywun sy’n arwain – mae e wedi cyflawni’r rôl hynny dros Gaerwysg yn ystod y tymor.
“[Dyw e] ddim yn annhebyg i be’ wnaeth [Warren Gatland] yn ystod 2011 yn dewis Sam Warburton. Fe wnaeth e geisio mowldio tîm o gwmpas yr unigolyn, ac efallai y bydd e’n trio gwneud hyn y tro yma wrth edrych ymlaen ar gyfer Cwpan y Byd yn 2027.”
Yn ystod y gynhadledd, dywedodd Warren Gatland ei fod yn edrych tuag at Gwpan y Byd nesaf yn 2027, ac am i’w chwaraewyr fod yn eu hugeiniau neu yn eu hugeiniau hwyr, ar yr hynaf, bryd hynny.
“Mae yna gylch newydd, dewis y to ifanc ac ailadeiladu,” meddai Cennydd Davies wedyn.
“Dw i ddim yn credu bod lot o opsiynau gyda Warren Gatland, mae nifer wedi bwrw eu swildod ar lefel ranbarthol efallai na fyddai wedi cael y cyfle o ystyried y wasgfa ariannol.”
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae sawl chwaraewr mawr wedi ymddeol – Dan Biggar, Leigh Halfpenny, Alun Wyn Jones a Justin Tipuric.
Ar ben hynny, mae llond llaw o chwaraewyr fyddai’n debygol o fod yn y garfan fel arall wedi’u hanafu – y ddau gyd-gapten a Taulupe Faletau yn eu mysg.
Yn ychwanegol at hynny, mae Liam Williams wedi symud i chwarae yn Japan, ac felly dydy ddim ar gael.
Rheol 25 cap
Mae’r rheol 25 cap hefyd yn cyfyngu ar y chwaraewyr sy’n chwarae eu rygbi tu allan i’r wlad.
Er mwyn chwarae dros Gymru, mae’n rhaid i chwaraewyr sy’n chwarae tu allan i Gymru fod wedi chwarae dros eu gwlad o leiaf 25 o weithiau.
“Mae’n bolisi dadleuol yn yr ystyr ein bod ni wedi colli chwaraewyr fel Joe Hawkins, er enghraifft, oedd ddim yn gymwys i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd oherwydd bod e wedi symud i Gaerwysg a bod e heb gyrraedd y 25 cap,” meddai Cennydd Davies.
“Dw i’n credu, petai Mason Grady yn symud o Gaerdydd, a dyw e ddim wedi cyrraedd y ffigwr allweddol yna chwaith, yna bydd Undeb Rygbi Cymru dan bwysau aruthrol i blygu a dileu’r rheol honno.
“Fydd hi’n ddiddorol gweld be sy’n digwydd o ran Mason Grady, dw i’n clywed o bosib y bydd e’n penderfynu gwrthod y demtasiwn i symud i Loegr ac yn aros am well telerau gyda Chaerdydd, felly amser a ddengys.
“Dyw hi ddim yn ddelfrydol o gwbl, dw i’n deall pam fod gan Undeb Rygbi Cymru bolisi o’r fath, achos dydyn nhw ddim am i’w chwaraewyr nhw ddiflannu; maen nhw am gael eu chwaraewyr gorau yn chwarae yng Nghymru, ac wrth gwrs mae hynny’n helpu Warren Gatland o ran yr amser paratoi sydd ganddo fe gyda’r garfan genedlaethol.
“Fyddai hynny’n diflannu os ydyn nhw’n chwarae tu hwnt i Glawdd Offa.
“Dw i’n deall y rhesymeg, ond dw i ddim yn credu fod y dyfnder gyda ni yng Nghymru ar hyn o bryd i weithredu’r polisi.”
Un arall y gallai fod wedi cael ei effeithio gan y rheol 25 cap ydy Immanuel Feyi-Waboso, sy’n gymwys i chwarae dros Gymru neu Loegr, ond daeth y cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf ei fod wedi penderfynu peidio chwarae i Gymru.
Pe bai wedi penderfynu chwarae dros Gymru, byddai wedi gorfod arwyddo gyda chlwb yng Nghymru pan ddaw ei gytundeb presennol gyda Chaerwysg i ben, gan na fyddai ganddo 25 cap dros ei wlad.
Byddai hynny’n golygu fod yn rhaid iddo roi’r gorau i radd mewn meddygaeth ym Mhrifysgol Caerwysg.
‘Yr esgid yn gwasgu’
Yn ôl Cennydd Davies, mae’r esgid yn gwasgu ac yn gorfodi chwaraewyr i wneud penderfyniadau “anodd dros ben”, ond mae’r apêl i chwarae dros Gymru mor gryf ag erioed.
“Dw i ddim yn credu ar unrhyw gyfrif fod y crys coch yn golygu llai, ond dw i’n teimlo oherwydd bod yr esgid yn gwasgu’n ariannol, mae e wedi gorfodi chwaraewyr i wneud penderfyniadau anodd dros ben.
“Mae’r sefyllfa wedi newid bron dros nos, ac mae’n rhaid cofio fod gyrfa chwaraewyr proffesiynol yn gallu bod yn fyr ofnadwy.”
“Hoffi’r cydbwysedd”
Wrth fyfyrio ar y garfan, dywed y cyflwynydd Lauren Jenkins ei bod hi’n “eithaf hoffi” y cydbwysedd.
“Mae Dafydd Jenkins wedi bod yn gapten yn 19 oed i Gaerwysg, felly Warren [Gatland] yw’r ail hyfforddwr profiadol ar ôl Rob Baxter sydd wedi gweld ei fod e’n gymeriad sy’n siwtio’r rôl – mae e’n broffesiynol iawn, mae sgiliau arwain gyda fe ac mae e’n mynd i fod yn rhan allweddol o garfan Cymru am beth amser,” meddai Lauren Jenkins wrth golwg360.
“Does dim dyfnder gyda ni yn yr ail reng, ac mae e nawr yn ŵr sydd wedi cael profiad Cwpan Byd ac sy’n dod mewn ynghyd â chwaraewyr fel Jac Morgan a Dewi Lake. Maen nhw’n ifanc, ond yn amlwg mae Warren yn teimlo’u bod nhw’n barod.
“Yn amlwg, ar ddiwrnod fel yma, mae lot o bobol yn edrych ar yr enwau newydd, lot o chwaraewyr di-gap ond yn anaml ydyn ni’n gweld y chwaraewyr yna i gyd yn chwarae yn yr un tîm mewn Chwe Gwlad.
“Dw i’n meddwl bod lot o brofiad dal yna, George North – wedodd Warren heddiw bod e’n gallu chwarae am bedair blynedd arall a mynd i Gwpan y Byd arall, bois fel Josh Adams, Nick Tompkins, Rio Dyer. Mae profiad yna, a dw i’n eithaf hoffi’r cydbwysedd yn bersonol.”