Dafydd Jenkins sydd wedi’i ddewis yn gapten ar garfan rygbi Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Jenkins fydd yr ail berson ieuengaf erioed i arwain Cymru mewn gêm ryngwladol.

Mae pump o chwaraewyr sydd heb ennill cap hyd yn hyn wedi eu dewis yn y garfan – sy’n cynnwys 19 o flaenwyr ac 15 o olwyr.

Mae wyth chwaraewr arall sydd eisoes wedi cynrychioli eu gwlad ond sydd heb brofi’r wefr o chwarae yn y Chwe Gwlad, wedi eu cynnwys hefyd – Keiron Assiratti, Corey Domachowski, Cai Evans, Kemsley Mathias, Joe Roberts a Teddy Williams.

Enillon nhw eu capiau cyntaf dros yr haf, tra bo Sam Costelow a Ioan Lloyd o’r Scarlets heb brofi gwefr y Bencampwriaeth chwaith.

Mae Owen Watkins, canolwr y Gweilch, a James Botham, chwaraewr rheng ôl Caerdydd, wedi ad-ennill eu lle yn y garfan.

Cymysgedd o brofiad ac ieuenctid

“Mae gennym brofiad pobol fel George North a Gareth Davies er mwyn sicrhau bod parhad yn ein datblygiad – ond rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at Gwpan y Byd ac felly’n cynnig y cyfle i rai chwaraewyr ifanc sydd ddim yn cael cyfleoedd cyson ar hyn o bryd,” meddai Warren Gatland.

“Mae’r chwaraewyr ifanc yma yn fy nghyffroi ac rwy’n edrych ymlaen at eu gweld yn datblygu yn ystod y pedair blynedd nesaf.

“Rwyf wedi dysgu dros y blynyddoedd bod yn rhaid mynd yn ôl i’r dechrau i raddau bob pedair blynedd gan eich bod yn anelu at gael y garfan yn eu hugeiniau canol neu hwyr erbyn Cwpan y Byd.

“Mae dechrau gartref mewn stadiwm lawn yn wych i ni gan ei fod yn gosod pwysau arnom.

“Mae’r Alban yn dîm da fydd wedi cael eu siomi gyda beth ddigwyddodd iddynt yn ystod Cwpan y Byd.

“Os cawn ni ddechreuad da – bydd hynny’n ein gosod mewn lle addawol ar gyfer gweddill y Bencampwriaeth.”

Dafydd Jenkins “wedi creu argraff fawr”

“Mae agwedd Dafydd [Jenkins] a’i broffesiynoldeb wedi creu argraff fawr arnom,” meddai Warren Gatland am y capten newydd.

“Mae eisoes wedi arwain Caerwysg ac mae ganddo barch ei gyd-chwaraewyr.

“Roedd wrth ei fodd pan ffoniais i fe i gynnig y gapteiniaeth iddo fe, a gyda chefnogaeth y garfan fe wnaiff gapten da.”

Cyhoeddiad annisgwyl Louis Rees-Zammit

Daeth ergyd drom i Gymru ar drothwy’r cyhoeddiad, wrth iddi ddod i’r amlwg fod Louis Rees-Zammit yn cefnu ar rygbi er mwyn dilyn ei freuddwyd o chwarae pêl-droed Americanaidd.

Mae’r asgellwr wedi cyhoeddi ei ymadawiad â Chaerloyw ar unwaith, ac fe fydd e’n teithio i dalaith Florida yn yr Unol Daleithiau i ddechrau rhaglen hyfforddi yr wythnos hon.

Mae’r Llwybr Chwaraewyr Rhyngwladol yn galluogi chwaraewyr o’r tu allan i’r Unol Daleithiau i geisio am le yn un o dimau’r NFL (y Gynghrair Bêl-droed Genedlaethol).

Mae asgellwr arall, Immanuel Feyi-Waboso, sy’n chwarae i Gaerwysg ond yn enedigol o Gaerdydd, wedi penderfynu troi ei sylw at Loegr yn hytrach na Chymru.

Anafiadau

Dydy Warren Gatland ddim wedi cael y dechreuad gorau i’r paratoadau oherwydd anafiadau i nifer o chwaraewyr blaenllaw.

Daeth y newyddion am Dewi Lake (llinyn y gâr) a Jac Morgan (penglin) yr wythnos hon, gyda chryn ddyfalu ynghylch pwy fyddai’n cael eu henwi’n gapten.

Dydy Taulupe Faletau ddim wedi chwarae ers iddo fe dorri ei fraich yn ystod Cwpan y Byd yn yr hydref, tra bod Christ Tshiunza yn chwaraewr rheng ôl arall sydd allan ar ôl torri ei droed.

Mae’r chwaraewyr rheng flaen Nicky Smith ac Elliot Dee wedi bod yn brwydro ag anafiadau hefyd, yn ogystal â’r chwaraewyr rheng ôl Josh McLeod a Taine Plumtree, tra bod y maswr Callum Sheedy wedi anafu ei benglin.

Carfan Cymru:

Blaenwyr: Corey Domachowski, Kemsley Mathias, Gareth Thomas, Elliot Dee, Ryan Elias, Evan Lloyd, Keiron Assiratti, Leon Brown, Archie Griffin, Adam Beard, Dafydd Jenkins (capten), Will Rowlands, Teddy Williams, Taine Basham, James Botham, Alex Mann, Mackenzie Martin, Tommy Reffell, Aaron Wainwright

Olwyr: Gareth Davies, Kieran Hardy, Tomos Williams, Sam Costelow, Cai Evans, Ioan Lloyd, Mason Grady, George North, Joe Roberts, Nick Tompkins, Owen Watkin, Josh Adams, Rio Dyer, Tom Rogers, Cameron Winnett