Mae’r newyddion fod Louis-Rees Zammit, asgellwr Cymru, yn gadael rygbi er mwyn symud i’r Unol Daleithiau i chwarae pêl-droed Americanaidd yn “ysgytwol” ac yn “syndod”, medd sylwebwyr.

Ar drothwy cyhoeddiad carfan Warren Gatland ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 16), cyhoeddodd Louis Rees-Zammit ei fod yn mynd i geisio cael gyrfa yn yr NFL.

Chafodd Warren Gatland ddim gwybod cyn heddiw, ac roedd cyhoeddiad y garfan tua thri chwarter awr yn hwyr yn sgil y newyddion.

Yn y cyfamser, mae’r clo Dafydd Jenkins wedi cael ei enwi’n gapten ar gyfer yr ymgyrch yn absenoldeb Dewi Lake a Jac Morgan yn sgil anafiadau, ac mae pump o chwaraewyr heb gap yn rhan o’r garfan.

‘Ergyd drom i Gymru’

Wrth gyhoeddi ei benderfyniad i symud i’r Unol Daleithiau ar unwaith, dywed Louis Rees-Zammit, sy’n 22 oed, ei fod yn “hynod gyffrous i gymryd y cyfle unwaith mewn oes i ymgymryd â her newydd”.

Mae e wedi cael ei dderbyn i’r NFL International Player Pathway, sy’n rhoi cyfle i athletwyr sicrhau cytundebau gyda phrif glybiau’r Unol Daleithiau.

“Dw i wedi dilyn rygbi Cymru ers bron i ugain mlynedd, pan rydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’i weld o gyd mae yna rywbeth ysgytwol arall yn digwydd,” meddai’r sylwebydd rygbi Cennydd Davies wrth golwg360.

“Mi oedd hi’n ysgytwol, dw i ddim yn credu y byddai unrhyw un wedi proffwydo’r hyn fyddai’n digwydd.

“Mi oedd yna oedi o safbwynt y garfan a phawb yn meddwl mai pendroni dros ryw anaf fan hyn a fan draw oedd Warren Gatland, ond wrth gwrs rydyn ni’n deall bellach pam oedd yr oedi.

“Ar yr arwyneb, mae’n ergyd drom i Gymru.

“Sioc ar y naill law, ond ar y llaw arall i unrhyw un wnaeth weld y rhaglen ddogfen ohono’r llynedd, dyw e ddim gymaint o sioc oherwydd fe wnaeth e grybwyll yn glir bod e’n dymuno bod yn seren fyd-eang, nid yn unig jyst yng Nghymru na chwaith jyst yn rygbi.

“Mae e’n 22 oed, sy’n golygu os nad yw pethau’n gweithio yn America, mae’n gallu troi yn ôl a bydd y drws wastad yn agored cyn Cwpan y Byd nesaf yn 2027.”

‘Y llwyfan mwyaf’

Ychwanega’r cyflwynydd rygbi Lauren Jenkins fod y newyddion yn sioc i bawb yng Ngwesty’r Vale, lle cafodd y gynhadledd ei chynnal i gyhoeddi’r garfan.

“Roedd e’n sioc enfawr ar y pryd, roedd y gynhadledd wedi cael ei gohirio chwarter awr i ddechrau, wedyn hanner awr ac roeddet ti’n dechrau meddwl bod hyn ychydig bach yn od,” meddai wrth golwg360.

“Doedd yna neb yn y gwesty yn disgwyl i’r newyddion yma ddod i law.

“Y mwyaf dw i wedi meddwl am y peth, y mwyaf mae e’n gwneud synnwyr. Mae Louis Rees-Zammit wastad wedi bod yn agored am y ffaith bod e eisiau bod yn chwaraewr rygbi gorau’r byd, ond dw i’n meddwl fod enwogrwydd a’r llwyfan mwyaf yn unrhyw gamp wedi’i ddenu fe.

“Mae e’n dweud bod e’n gyfle i amrywio a datblygu sgiliau, yn yr hirdymor galle fe fod yn gyfle enfawr i ennill lot mwy o arian a chwarae ar y llwyfan mwyaf.

“Ond beth sy’n bwysig i gofio yw dyw e ddim yn mynd i chwarae yn yr NFL nac i dîm eto, mae e’n mynd i geisio’i gwneud hi.

“Mae’n siwrne hir, ac efallai anodd, i gyrraedd uchelfannau’r NFL, felly pwy â ŵyr os fydd e’n llwyddiant.

“Sa i’n meddwl eich bod chi’n gallu beio fe; mae e’n 22 oed, pam ddim mynd a thrio, a fydd e wastad yn gallu dod yn ôl i rygbi os mae e mo’yn, ac mae Warren Gatland wedi dweud prynhawn yma fod y drws wastad ar agor ar ei gyfer.”

‘Does yna byth eiliad ddiflas yn rygbi Cymru’

Wrth rannu’r newyddion am ei garfan, datgelodd Warren Gatland ei fod wedi clywed am benderfyniad Louis Rees-Zammit llai na hanner awr cyn iddo ddatgelu ei garfan.

“Mae’n dipyn o sioc,” meddai.

“Mae pethau wedi digwydd yn eithaf cyflym. Dywedodd Louis fod rhywun wedi gwneud cysylltiad ddydd Sul.

“Mae’r gwaith papur wedi ei gytuno a’i arwyddo ac mae Caerloyw wedi cytuno i’w ryddhau.

“Ffoniodd fi i roi’r wybodaeth honno i mi, ac i ddiolch i mi am ei amser yng Nghwpan y Byd.

“Mae’n 22 oed, mae bob amser wedi breuddwydio am chwarae yn yr NFL.

“Mae’n teimlo os na fydd yn manteisio ar y cyfle hwnnw nawr, efallai na fydd yn codi.

“Gofynnais iddo beth yw ei gamau nesaf os nad yw’n gweithio allan, dywedodd y byddai’n dod yn ôl.

“Does yna byth eiliad ddiflas yn rygbi Cymru. Mae wedi bod yn dipyn o rollercoaster yn ystod yr ychydig oriau diwethaf.

“O fy safbwynt i, hoffwn ddymuno’r gorau i Louis. Rwy’n gobeithio y bydd popeth yn gweithio allan iddo.”