Ar y diwrnod pan fo Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae Undeb Rygbi Cymru’n dweud bod yr holl docynnau ar gyfer y gêm agoriadol wedi’u gwerthu.

Bydd Cymru’n herio’r Alban yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ar Chwefror 3.

Dyma ail bencampwriaeth y prif hyfforddwr ers iddo fe ddychwelyd i’r swydd fis Ionawr y llynedd.

“Chwe Gwlad Guinness yw un o’r twrnameintiau chwaraeon mwyaf yn y byd, ac mae cael dechrau’r flwyddyn gyda thorf lawn yn erbyn yr Alban yn wych,” meddai Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru.

“Caiff Stadiwm Principality ei chydnabod ledled y byd am ei hawyrgylch heb ei ail, ac mae gêm agoriadol y Chwe Gwlad hon yn un o’r achlysuron hynny lle nad oes lle gwell i fod, fel y bydd ein gemau cartref eraill yn erbyn Ffrainc a’r Eidal yn benllanw ar y twrnament.

“Hoffwn estyn diolch o waelod calon i’r holl gefnogwyr am eu cefnogaeth ddiwyro.

“Mae rygbi’n bwysig i bawb yng Nghymru, ac mae cael gweld y genedl yn uno y tu ôl i Warren a’i dîm yn y modd yma’n galonogol dros ben.”

Tocynnau’n dal ar werth

Mae tocynnau’n dal ar werth ar gyfer y gemau yn erbyn Ffrainc (Mawrth 10) a’r Eidal (Mawrth 16).

Mae nifer y tocynnau rhataf wedi dyblu eleni, gyda phrisiau ar gyfer y gêm yn erbyn yr Eidal yn dechrau o £30 ar gyfer pobol ifanc dan 17 oed a £60 ar gyfer oedolion.

Mae prisiau’r tocynnau ar lefel ucha’r stadiwm hefyd wedi gostwng, a phrisiau ar gyfer y seddi gorau wedi’u rhewi.

Mae gostyngiad o 50% i deuluoedd ar gyfer gêm ola’r twrnament yn erbyn yr Eidal fel rhan o ostyngiad i bobol ifanc dan 17 oed ar gyfer unrhyw sedd yn y stadiwm.

Mae Undeb Rygbi Cymru’n atgoffa cefnogwyr i brynu tocynnau o lefydd swyddogol, ac mai trwy glybiau rygbi yw’r ffordd orau o sicrhau hynny.