Mae cyn-chwaraewr tîm pêl-droed merched Dinas Caerdydd wedi cyhuddo’r clwb o’i gwthio allan ar ôl iddi godi pryderon am les y chwaraewyr a’u triniaeth gan hyfforddwyr.
Ar ôl unarddeg o flynyddoedd gyda’r clwb, gadawodd y chwaraewr canol cae Danielle Broadhurst y clwb yr wythnos diwethaf.
Dywedodd y clwb bryd hynny ei bod hi’n gadael “am her newydd”, ond mae hi ei hun yn dweud iddi adael gan ei bod hi wedi “colli pob ffydd yn nhîm y merched”, a’i bod hi’n poeni nad yw’r merched yn y tîm yn cael eu trin yn deg.
“Byddai’n anghywir i mi ddweud mai dyma beth roeddwn i eisiau gan nad yw hynny’n wir,” meddai mewn neges ar wefan X (Twitter gynt).
“Gwelais fy hun yn rhan o’r clwb nes i mi benderfynu dod â fy ngyrfa bêl-droed i ben.
“Fel eraill sydd wedi gadael yn ddiweddar, rwyf wedi cael fy ngwthio allan gan dîm y Merched ac nid oedd gennyf unrhyw ddewis arall ond rhoi fy hapusrwydd yn gyntaf, felly penderfynais adael a gwneud yr hyn oedd orau i mi.”
‘Dim gofal’
Dywed Danielle Broadhurst iddi chwarae’n gyson yn nhymor 2022/23, a bu’n rhan “hanfodol” o’r unarddeg cychwynnol yn wythnosol, cyn cael anaf oedd yn golygu bod yn rhaid iddi fethu gweddill Cynghrair y Pencampwyr.
Yr enghraifft gyntaf gododd hi ar X o driniaeth y chwaraewyr gan hyfforddwyr oedd ei phrofiadau o deithio yn ôl o’r gystadleuaeth honno.
“Ar y ffordd adref o Gynghrair y Pencampwyr, doeddwn i methu cerdded ar fy nghoes gan fod gen i naw pwyth, felly roeddwn i angen cadair olwyn.
“Doedd dim gofal gan unrhyw aelod o staff i drafferthu trefnu cymorth i mi yn y maes awyr, hyd yn oed.
“Oni bai am fy ffrindiau, dw i ddim yn siŵr sut y byddwn wedi mynd adref ar yr awyren.”
Ymchwiliad gymerodd “lai nag wythnos i’w ddiweddu”
Yn ystod ei chyfnod allan ag anaf, dywed Danielle Broadhurst fod cyhuddiadau wedi’u gwneud yn erbyn rhai o hyfforddwyr tîm y merched.
Daeth y cyhuddiadau o ganlyniad i bryderon rhai am les y chwaraewyr yn y clwb, meddai.
Dywed fod ymchwiliad i’r cyhuddiadau hyn wedi cymryd “llai nag wythnos i’w ddiweddu”, ac na chafodd pawb eu cyfweld.
“Rhoddodd yr ychydig chwaraewyr gafodd eu cyfweld ddatganiadau fyddai’n dilysu ymddygiad amhriodol mewn sawl ffordd wahanol, ddylai fod wedi arwain at sancsiynau gan yn y clwb.
“Yn hytrach, dywedwyd wrth chwaraewyr, ‘Gallai eich cyhuddiadau ddifetha bywyd rhywun’ ac i feddwl ddwywaith os ydyn nhw am wneud pethau i fyny fel yr hyn sydd wedi’i ddweud’.
“Ni chafodd y chwaraewyr eu credu, a chafodd unrhyw ddewrder i godi llais am ein pryderon ei daflu i’r bin, yn y bôn.
“Dywedwyd wrth chwaraewyr, gan nad oedd unrhyw dystiolaeth, nad oedd unrhyw beth arall i’w wneud.
“Cafodd nifer o honiadau eu gwneud gan nifer o bobol, ac i’n clwb ein hunain beidio â’n credu oherwydd y byddai’n well ganddyn nhw guddio’r gwir na gwneud yr hyn sydd orau ar gyfer lles chwaraewyr, dylai hynny adrodd cyfrolau wrth bawb.”
Cwestiynu cyfrinachedd yr ymchwiliad
Ers dychwelyd ar ôl ei hanaf, dywed Danielle Broadhurst mai prin ei bod hi wedi dechrau’r un gêm, a’i bod “ar nifer o achlysuron wedi bod allan o’r garfan yn gyfangwbl”.
Wedi iddi gwestiynu ei rheolwr am hyn, roedd hi’n poeni am gyfrinachedd cyfweliadau’r ymchwiliad wedi i’r rheolwr rannu gwybodaeth ddylai fod wedi bod yn gyfrinachol rhwng chwaraewyr ac adnoddau dynol, meddai.
“Cefais sawl esgus ynghylch pam nad oeddwn i’n chwarae’n rheolaidd fel, ‘Dydw i ddim yn [rhif] deg bellach’ a ‘Dw i bob amser yn chwarae’n ddiogel’.
“Sgoriais i ddeg gôl y tymor diwethaf wrth chwarae fel [rhif] 10, felly wnaeth hynny ddim fy nharo i’n iawn.
“Wynebais i fy rheolwr eto, a’r tro hwn gofynnais a oedd hyn yn bersonol, ac atebodd ‘Na’.
“Fe wnaeth hyn ddwysáu i’r honiadau gafodd eu gwneud ychydig fisoedd yn ôl, a nododd [y rheolwr] bryd hynny, ‘Mae yna bobol sy’n dal i chwarae sydd wedi dweud gwaeth na ti’.
“Mae hyn eto yn dangos nad oedd ein sgyrsiau cyfrinachol gydag AD [Adnoddau Dynol] ac eraill yn cael eu cadw’n gyfrinachol o gwbl gan ei fod yn gwybod fod chwaraewyr wedi codi llais.
“Wnes i erioed fynd at y clwb unwaith am unrhyw honiadau, fe wnaethon nhw gysylltu â mi a gofyn cwestiynau wnes i eu hateb yn onest, a dw i wedi cael fy nghosbi ers hynny.”
‘Diolch’
Yn ôl Danielle Broadhurst, roedd hi’n gwybod nad oedd ffordd yn ôl iddi hi ac na fyddai hi’n hapus yno eto, felly penderfynodd hi adael y clwb.
Mae hi wedi diolch i’w chyd-chwaraewyr, ac mae hi’n edrych ymlaen at gael chwarae eto.
“Dw i methu aros i ddechrau mwynhau fy amser yn chwarae’n gyson eto a chael fy nhrin yn deg,” meddai.
“Diolch i’r merched dw i wedi chwarae gyda nhw yng Nghaerdydd.
“Rydych chi wedi gwneud fy ngyrfa [yr hyn ydy hi], a dw i mor falch fy mod i wedi rhannu cae gyda phob un ohonoch.”
‘Lles chwaraewyr yn brif flaneoriaeth’
Mae Clwb Pêl-droed Merched Dinas Caerdydd wedi ymateb i’r honiadau.
“Mae CPD Dinas Caerdydd yn ymwybodol o sylwadau gafodd eu cyhoeddi yn ddiweddar ar X gan gyn-chwaraewr tîm y merched,” meddai llefarydd ar ran y clwb wrth golwg360.
“Os yw pryderon yn cael eu codi gan chwaraewyr neu weithwyr, maen nhw’n cael eu cymryd o ddifrif, yn cael eu trin yn gyfrinachol a, lle bo’n briodol, yn cael eu hymchwilio’n drylwyr.
“Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol i’w holl weithwyr ac yn cadw unigolion amrywiol yn benodol at y diben hwn.
“Fel clwb proffesiynol, mae gennym gefnogaeth ddiogelu ar draws pob tîm cynrychioliadol.
“Mae ein Rhaglen Menywod yn Ninas Caerdydd wedi esblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chwaraewyr yn ennill statws lled-broffesiynol yn seiliedig ar haeddiant.
“Mae cynnal llwyddiant ar y cae wedi golygu bod angen safonau hyfforddi uwch, ond mae lles chwaraewyr bob amser wedi parhau i fod yn brif flaenoriaeth y Clwb a’r Rhaglen.”