Mewn colofn arbennig i golwg360, y gohebydd snwcer Gareth Blainey sy’n edrych yn ôl dros Bencampwriaeth y Meistri, llwyddiant Ronnie O’Sullivan a siom i Mark Williams…


Ronnie O’Sullivan enillodd Bencampwriaeth y Meistri. Y gystadleuaeth hon ydy un o dair cystadleuaeth ‘y Goron Driphlyg’ ym myd snwcer, ynghyd â Phencampwriaeth y Byd a Phencampwriaeth y Deyrnas Unedig. Mae’r Meistri yn wahanol i’r ddwy arall, gan mai dim ond yr 16 chwaraewr uchaf ar restr detholion y byd sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Daeth O’Sullivan yn ôl i guro Ali Carter o ddeg ffrâm i saith mewn rownd derfynol wefreiddiol yn yr Alexandra Palace yn Llundain. Aeth o ar ei hôl hi o chwech i dair, ond enillodd o saith o’r wyth ffrâm nesaf i selio’i fuddugoliaeth a’r brif wobr o £250,000. Roedd hi’n fuddugoliaeth nodedig ar ddau gyfrif, oherwydd bod O’Sullivan wedi ymestyn record a chreu record newydd. Dyma’r wythfed tro iddo fo fod yn Bencampwr y Meistri – dwy waith yn fwy na Stephen Hendry – ac yn 48 oed, O’Sullivan ydy’r chwaraewr hynaf i ennill y gystadleuaeth. Fo ydy’r ieuengaf hefyd – doedd o ond yn 19 oed pan enillodd o’r Meistri am y tro cyntaf drwy guro John Higgins yn y rownd derfynol yn 1995.

Ers i O’Sullivan droi’n broffesiynol yn 1992, mae’r ystadegau’n profi mai y fo ydy’r chwaraewr gorau erioed. Mae o wedi ennill mwy o gystadlaethau’r ‘Goron Driphlyg’ nag unrhyw chwaraewr arall. Ar ôl ei fuddugoliaeth dros Ding Junhui yn rownd derfynol Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig fis diwethaf, caiff o’r cyfle i ennill tair cystadleuaeth ‘y Goron Driphlyg’ yn yr un tymor am y tro cyntaf yn ei yrfa ym Mhencampwriaeth y Byd, fydd yn dechrau yn Theatr y Crucible yn Sheffield ar Ebrill 20. O’Sullivan fydd y ffefryn ar sail safon ei chwarae yn y Meistri, ac os gwnaiff o ennill Pencampwriaeth y Byd am yr wythfed tro bydd hynny’n record. Daeth o’n gyfartal â record Hendry drwy godi’r tlws am y seithfed tro ddwy flynedd yn ôl.

Steve Davis, Hendry a’r Cymro Mark Williams ydy’r unig chwaraewyr sydd wedi ennill Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig, y Meistri a Phencampwriaeth y Byd yn yr un tymor. Gwnaeth Williams hynny yn nhymor 2002-2003. Eleni, roedd ei berfformiad yn y Meistri yn un siomedig. Ar ôl cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth y llynedd a dod yn agos at guro Judd Trump, collodd Williams o chwech i bedair yn erbyn Ali Carter yn y rownd gyntaf.