Dywed Louis Rees-Zammit ei fod yn “methu deall pam na all pobol fod yn hapus” ei fod e’n dilyn breuddwyd.

Daw sylwadau cyn-asgellwr rygbi Cymru yn dilyn y cyhoeddiad annisgwyl ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 16) ei fod e’n symud i’r Unol Daleithiau mewn ymgais i ennill ei le yn yr NFL, sef y brif gynghrair bêl-droed Americanaidd.

Mae e wedi cael ei dderbyn i’r NFL International Player Pathway, sy’n rhoi cyfle i athletwyr sicrhau cytundebau gyda phrif glybiau’r Unol Daleithiau.

Chafodd Warren Gatland ddim gwybod tan fore’r gynhadledd, ac roedd cyhoeddiad y garfan tua thri chwarter awr yn hwyr yn sgil y newyddion, wrth i’r prif hyfforddwr gyfaddef ei fod e wedi cael “tipyn o sioc” a bod pethau “wedi digwydd yn eithaf cyflym”.

Wrth gyhoeddi ei benderfyniad i symud i’r Unol Daleithiau ar unwaith, dywed Louis Rees-Zammit, sy’n 22 oed, ei fod yn “hynod gyffrous i gymryd y cyfle unwaith mewn oes i ymgymryd â her newydd”.

Ymateb cymysg

Cafodd y cyhoeddiad ymateb cymysg, wrth i gefnogwyr geisio dygymod â’r cyhoeddiad ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad fis nesaf.

“Ddim yn deall pam na all pobol fod yn hapus fy mod i’n dilyn fy mreuddwydion,” meddai Louis Rees-Zammit ar X (Twitter gynt).

“Ond hei ho, mae bywyd yn symud yn ei flaen ac mae [beirniadaeth] yn ychwanegu tipyn o ysgogiad.”

Louis Rees-Zammit

Louis Rees-Zammit: gadael rygbi a symud at bêl-droed Americanaidd yn “ergyd drom i Gymru”

Cadi Dafydd ac Elin Wyn Owen

“Fe wnaeth e grybwyll yn glir bod e’n dymuno bod yn seren fyd-eang, nid yn unig jyst yng Nghymru na chwaith jyst yn rygbi”