Mae Aaron Ramsey yn ymarfer eto gyda Chlwb Pêl-droed Caerdydd ar ôl gwella o anaf i’w benglin.

Dydy chwaraewr canol cae Cymru ddim wedi chwarae ers tri mis, a dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pryd y bydd e’n dychwelyd i’r cae.

Ond bydd y datblygiad diweddara’n hwb i Gymru wrth iddyn nhw baratoi i herio’r Ffindir yn eu gêm ragbrofol yng Nghaerdydd ar gyfer Ewro 2024 ym mis Mawrth.

Dywed Erol Bulut, rheolwr Caerdydd, y bydd e’n dychwelyd “gam wrth gam”.

Dim ond chwe gwaith mae’r Cymro wedi chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, ac mae rheolwr yr Adar Gleision yn mynnu bod rhaid iddo fe wella’i ffitrwydd cyn cael ei ystyried ar gyfer gemau.