Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd yn dweud na fyddan nhw’n goddef staff yn cael eu camdrin gan gefnogwyr.

Daw hyn wrth i’r clwb drefnu’r tocynnau ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Manchester United yng Nghwpan FA Lloegr ar Ionawr 28.

Bydd y gic gyntaf yn Rodney Parade am 4.30yp, a’r gêm yn cael ei darlledu’n fyw gan y BBC.

“Dyma atgoffa cefnogwyr NA FYDD camdrin staff yn cael ei oddef,” meddai’r clwb mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae ein staff tocynnau’n gweithio rownd y rîl i ateb y galw enfawr am docynnau Manchester United.

“Diolch yn fawr am eich amynedd.”

Blaenoriaeth

Daw hyn wrth i’r clwb gyhoeddi’r flaenoriaeth ar gyfer prynu tocynnau ar gyfer y gêm hon a gemau eraill.

Fe fu tocynnau ar gyfer yr eisteddle dros dro ar gyfer y gêm yn erbyn Wrecsam ar werth ers dydd Mercher (Ionawr 17), ac mae pob tocyn wedi’i werthu erbyn hyn.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Manchester United ar werth i ddeilliaid tocyn tymor ac aelodau’r Ymddiriedolaeth Cefnogwyr ers ddoe (dydd Iau, Ionawr 18) ac maen nhw ar werth eto heddiw (dydd Gwener, Ionawr 19).

Wrth gyhoeddi’r categorïau blaenoriaeth, dywed y clwb mai dim ond o dan un categori y gall cefnogwyr brynu tocynnau, sef:

  • Deiliaid tocyn tymor – dau docyn y pen – un yn eich sedd arferol, ond does dim sicrwydd y bydd yr ail yn y sedd nesaf at y sedd honno, ond bydd modd prynu dau docyn gyda’i gilydd mewn mannau eraill yn y stadiwm
  • Aelodau’r Ymddiriedolaeth – un tocyn y pen, ond bydd modd i aelodau Platinwm, Aur a Chorfforaethol brynu dau docyn yr un, ynghyd â phlant (gyda thocyn oedolyn hefyd).

Dim ond aelodau ers cyn Ionawr 9 sy’n gymwys ar gyfer y categorïau uchod.

Bydd y swyddfa docynnau ar gau ddydd Sul (Ionawr 21), cyn i docynnau fynd ar werth i’r cyhoedd ddydd Llun (Ionawr 22), ac fe fydd uchafswm o ddau docyn yr un ar gael.

Dywed y clwb eu bod nhw’n rhagweld y bydd “nifer sylweddol” o docynnau ar gael i’r cyhoedd.

Codi eisteddle dros dro ar gyfer gêm fawr Casnewydd yn erbyn Manchester United

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Rodney Parade ar Ionawr 28