Mae’r Cymro Stevie Williams o Aberystwyth wedi ennill ras feics y Tour Down Under gyda buddugoliaeth yn y chweched cymal.

Aeth e ar y blaen yn y cymal olaf ond un ddydd Sadwrn (Ionawr 20), gan orffen yn ail yn y cymal hwnnw y tu ôl i Oscar Onley.

Cael a chael oedd hi ar y cloc ar ddechrau’r cymal, ond roedd e ac Onley ymhell ar y blaen i’r gweddill am rannau helaeth o’r ras.

Fe wnaeth Williams guro Jhonatan Narvaez, ddaeth yn ail, ac Isaac Del Toro Romero, oedd yn drydydd, wrth i’r tri frwydro’n galed tua diwedd y ras.

Ond gwibiodd Williams tua’r llinell derfyn o fewn 3km i ddiwedd y ras, i orffen ar frig y Dosbarthiad Cyffredinol yn dilyn gwrthdrawiad ymhlith y peloton.