Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi cau eu swyddfa docynnau ar ôl i staff gael eu sarhau.
Roedd disgwyl i’r swyddfa fod ar agor heddiw (dydd Llun, Ionawr 22) er mwyn i’r cyhoedd brynu tocynnau ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Manchester United yng Nghwpan FA Lloegr ddydd Sul (Ionawr 28).
Ond dim ond ar-lein roedd modd prynu tocynnau fore Llun, ac mae pob tocyn wedi’i werthu erbyn hyn.
Dywed y clwb eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad yn dilyn “sarhad ofnadwy” ac “ymddygiad bygythiol” wrth i’r tocynnau cyntaf fynd ar werth ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.
Maen nhw’n dweud bod ganddyn nhw “bolisi dim goddefgarwch” allai arwain at wahardd pobol rhag mynd i’r stadiwm neu gamau cyfreithiol hyd yn oed.
Mae’r clwb wedi diolch i’w staff am eu gwaith dros yr wythnosau diwethaf wrth iddyn nhw ymateb i’r galw sylweddol am docynnau ar gyfer y gemau yn erbyn Manchester United a Wrecsam.