Mae carfan rygbi Cymru dan 20 ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi cael ei chyhoeddi.

Mae 37 o chwaraewyr wedi’u dewis, ond does dim lle i’r blaenasgellwr Ryan Woodman, sydd wedi torri ei fawd.

Harri Ackerman, sydd hefyd yn chwarae i’r Dreigiau, sydd wedi’i ddewis i arwain y garfan.

Mae unarddeg o chwaraewyr wedi ennill capiau eisoes, gyda’r cefnwr Huw Anderson wedi’i enwi er nad oedd e wedi cyrraedd y cae yng Nghwpan y Byd y llynedd, ac mae’n dal i aros i ennill ei gap cyntaf dros ei wlad.

Mae Cymru eisoes wedi herio Aberafan a Phrifysgol Abertawe wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y twrnament, ac mae Richard Whiffin yn dweud bod ei ddewisiadau wedi’u gwneud ar sail perfformiadau yn y gemau hynny.

Yn y cyfamser, mae’r tîm hyfforddi wedi’i gadarnhau, gyda Scott Sneddon (amddiffyn), Sam Hobbs (blaenwyr) a Richie Pugh yn cynorthwyo Richard Whiffin.


Y garfan

Blaenwyr

Freddie Chapman (Gweilch), Jordan Morris (Dreigiau), Josh Morse (Scarlets), Louie Trevett (Bryste), Harry Thomas (Scarlets), Evan Wood (Met Caerdydd), Will Austin (Sale), Kian Hire (Gweilch), Sam Scott (Midlands Central), Patrick Nelson (RGC), Johnny Green (Harlequins), Lewis Marsh (Gweilch), Nick Thomas (Dreigiau), Tom Golder (Harlequins), Osian Thomas (Caerlŷr), Will Plessis (Scarlets), Lucas de la Rua (Rygbi Caerdydd), Harri Beddall (Caerlŷr), Luca Giannini (Scarlets), Morgan Morse (Gweilch), Owen Conquer (Glyn Ebwy)

Olwyr

Ieuan Davies (Caerfaddon), Rhodri Lewis (Gweilch), Lucca Setarro (Scarlets), Harri Wilde (Rygbi Caerdydd), Harri Ford (RGC), Harri Ackerman (Dreigiau, capten), Macs Page (Scarlets), Louie Hennessey (Caerfaddon), Gabe McDonald (Scarlets), Harry Rees-Weldon (Dreigiau), Walker Price (Dreigiau), Aiden Boschoff (Bryste), Kodi Stone (Rygbi Caerdydd), Scott Delnevo (Aberafan), Huw Anderson (Dreigiau), Matty Young (Rygbi Caerdydd).

Gemau Cymru

Chwefror 2: Cymru v Yr Alban, Stadiwm CSM, 6.45yh

Chwefror 9: Lloegr v Cymru, 7.15yh

Chwefror 23: Iwerddon v Cymru, 7.15yh

Mawrth 7: Cymru v Ffrainc, Parc yr Arfau, 7.45yh

Mawrth 15: Cymru v Yr Eidal, Parc yr Arfau, 7.30yh