Mae un o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi dweud wrth golwg360 fod yna “bryder y gall pethau ddadfeilio” pe bai’r rheolwr yn ymddiswyddo.

Daw sylwadau Geraint Cynan ar ôl i Erol Bulut ddweud dros y penwythnos fod “nifer o bethau” yn ei wneud yn anhapus ynghylch sefyllfa bresennol y clwb.

Daeth sylwadau Bulut ar ôl iddo fe wylio’i dîm yn colli o 3-1 oddi cartref yn Plymouth Argyle.

Ond mae’r cadeirydd Mehmet Dalman wedi tawelu ofnau’r cefnogwyr, gan ddweud nad yw’r rheolwr yn mynd i unman a bod y clwb am weithio er mwyn sicrhau eu bod nhw’n denu chwaraewyr yn ystod y ffenest drosglwyddo fis yma.

Ymhlith y rhai sydd wedi’u cysylltu â’r clwb mae Kieffer Moore, cyn-ymosodwr yr Adar Gleision.

“Mae’n rhaid i fi benderfynu ynghylch fy hun a’r dyfodol gyda’r clwb,” meddai Erol Bulut wrth drafod ei ddyfodol â BBC Cymru.

“Bydda i’n gwneud penderfyniad am hynny.

“Efallai bod rhaid i fi wneud penderfyniad i fi fy hun ynghylch sut fydd fy nyfodol gyda’r clwb, oherwydd des i yma i newid pethau mewn ffordd bositif.”

Mae’r Adar Gleision yn bedwerydd ar ddeg yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, ac wedi colli tair o’u pum gêm ddiwethaf.

Ond bydd modd iddyn nhw wario arian ar chwaraewyr cyn diwedd mis Ionawr, ar ôl i embargo gael ei godi.

Bydd cytundeb y rheolwr yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, ond y gobaith yw y bydd e’n aros y tu hwnt i hynny ar ôl llwyddo i wyrdroi’r perfformiadau a’r canlyniadau ers cael ei benodi ddechrau’r tymor hwn.

‘Bwydo’r gwewyr’

Mae Geraint Cynan yn un sy’n poeni y gallai sefyllfa Caerdydd fynd yn waeth cyn gwella eto.

“Mae sïon bod tensiynau rhyngddo fe a’r bwrdd, ond dim byd cadarn,” meddai wrth golwg360 am sefyllfa Erol Bulut.

“Dydy’r gwefannau cymdeithasol ddim yn help, wrth gwrs, a llid y cefnogwyr fan’na yn tocsig iawn.”

Wrth drafod hynt a helynt y tîm ar y cae, dywed fod “y canlyniadau diweddar yn siomedig, yr arlwy yn ddiflas, y garfan wedi blino, a diffyg cynllun a chreadigrwydd wedi llesteirio’r addewid cynnar”.

Tra bod adroddiadau y gallai Kieffer Moore ddychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd cyn i’r ffenest drosglwyddo gau’n glep, byddai cael ffigwr allweddol arall yn ôl ar y cae yn hwb i’r Adar Gleision, yn ôl Geraint Cynan.

Dydy Aaron Ramsey ddim wedi chwarae ers tri mis, ar ôl anafu ei benglin wrth ymarfer.

Ond daeth cadarnhad yr wythnos hon ei fod e’n ymarfer gyda’r garfan unwaith eto, er nad oes sicrwydd o hyd pryd y bydd e’n holliach i chwarae.

“Mae angen cael Rambo ’nôl ar y cae i hybu’r ysbryd a lleddfu llid y dorf,” meddai Geraint Cynan wedyn.

“Dw i’n amau mai aflwyddiannus fydd y ffenest drosglwyddo, a bydd hynny’n bwydo’r gwewyr fwyfwy.”