Bydd tîm pêl-droed merched Cymru’n herio Gweriniaeth Iwerddon mewn gêm gyfeillgar yn Nulyn ar Chwefror 27.

Hon fydd eu gêm gyntaf ers ymadawiad y rheolwr Gemma Grainger, sydd bellach yn rheolwr ar dîm merched Norwy.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Tallaght Shamrock Rovers, gyda’r gic gyntaf am 7.30yh, a honno’n rhan o baratoadau Cymru ar gyfer ymgyrch ragbrofol Ewro 2025.

Jon Grey yw rheolwr dros dro Cymru, ac fe fydd e wrth y llyw am y tro cyntaf ar gyfer yr ornest hon.

Bydd manylion darlledu a gwybodaeth docynnau ar gyfer y gêm yn cael eu cadarnhau maes o law.

Gêm “o fudd” i Gymru

“Mae Gweriniaeth Iwerddon wyth safle yn uwch yn safleoedd y byd a fydd o fudd i ni oherwydd rydyn ni bob amser eisiau chwarae a phrofi ein hunain yn erbyn cenhedloedd sydd yn uwch na ni,” meddai Jon Grey.

“Rydym wedi dysgu digon o’n hymgyrch gyntaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd a byddwn yn edrych i adeiladu ar hyn wrth fynd i’r gêm gyfeillgar hon a thu hwnt.

“Byddwn ni’n darganfod ein gwrthwyneberwyr am Rownd Ragbrofol Ewro Menywod UEFA 2025 yn digwydd yn gynnar ym mis Mawrth a gobeithio bydd y gêm hon yn helpu i gael y chwaraewyr yn y lle gorau posib ar gyfer dechrau’r ymgyrch ragbrofol sydd i ddod.”