Mae adroddiadau bod Clwb Pêl-droed Nottingham Forest wedi gwrthod cynnig am Neco Williams.
Mae lle i gredu bod y tîm yn yr Iseldiroedd yn awyddus i ddenu’r cefnwr ar fenthyg.
Ond mae’r Cymro wedi chwarae’n fwy rheolaidd o dan y rheolwr newydd Nuno Espirito Santo, gafodd ei benodi gan y clwb ar ôl iddyn nhw ddiswyddo’r Cymro Steve Cooper.
Dechreuodd y chwaraewr 22 oed y gemau yn erbyn Wolves, Spurs a Bournemouth yn ddiweddar, gan ddod i’r cae yn eilydd yn y gemau yn erbyn Newcastle, Manchester United a Brentford.
Ymunodd Neco Williams â Nottingham Forest yn 2022.
Mae ganddo fe ddwy flynedd a hanner yn weddill o’i gytundeb.