Huw Jenkins, cyn-gadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe, yw perchennog newydd Clwb Pêl-droed Casnewydd.

Daw hyn ar ôl iddo fe brynu 52% o gyfrannau’r Alltudion gan Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr, sydd wedi bod wrth y llyw ers 2015.

Dyma drefn debyg i’r hyn oedd ar waith yn Abertawe, pan oedd e wrth y llyw yn ystod y cyfnod mwyaf llwyddiannus yn hanes y clwb, arweiniodd at gyfnod helaeth yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Roedd 98% o aelodau Casnewydd o blaid y perchennog newydd wrth iddyn nhw roi eu sêl bendith iddo fe ym mis Medi.

Bydd gan Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr 27% o gyfrannau’r clwb o hyd, gyda Shaun Johnson a Paul Marks yn eu cynrychioli nhw ar Fwrdd y Cyfarwyddwyr hyd nes y bydd etholiad, tra bod Peter Madigan, Mark Crook, Mike Everett a Bob Herrin wedi camu o’r neilltu.

Dywed y clwb y bydd aelodau newydd y Bwrdd a’r strwythur staffio’n cael eu cadarnhau maes o law.

Pwy yw Huw Jenkins?

Dyma swydd gyntaf Huw Jenkins o Gastell-nedd ers iddo fe adael yr Elyrch yn 2019, ar ôl 17 o flynyddoedd llwyddiannus wrth y llyw.

Fe wnaeth e arwain criw yno oedd wedi achub y clwb rhag cwympo o’r Gynghrair Bêl-droed yn 2002, cyn iddyn nhw godi trwy’r cynghreiriau, ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair, codi Cwpan Capital One a chwarae yn Ewrop.

Fe adawodd e’r clwb dair blynedd ar ôl i berchnogion Americanaidd brynu’r clwb.

Casnewydd v Manchester United: ‘Gallai’r arian sicrhau ffyniant y clwb yn y dyfodol’

Alun Rhys Chivers

Bydd y gêm fawr yn cael ei chynnal ar gae Rodney Parade ar Ionawr 28