Mae rhanbarth rygbi’r Gweilch wedi dewis cynnal gêm Ewropeaidd ar Gae’r Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn hytrach na Stadiwm Swansea.com – er bod y stadiwm ar gael.

Bydd y Gweilch yn croesawu Sale ar ddydd Sadwrn, Ebrill 6 gyda’r gic gyntaf am 8 o’r gloch, a hwnna’n benwythnos pan fydd tîm pêl-droed Abertawe – sy’n rhannu’r stadiwm – yn chwarae oddi cartref.

Ers cael ei benodi, mae’r Prif Weithredwr Lance Bradley wedi dweud ei fod yn teimlo bod Stadiwm Swansea.com – sy’n gallu cynnal torf o 20,500 – yn rhy fawr ar gyfer gemau rygbi domestig.

8,000 sy’n gallu mynd i wylio gemau ar Gae’r Bragdy, lle curodd y Gweilch Gaerdydd ar Ddydd Calan.

Dywed y Gweilch eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad i gynnal y gêm ym Mhen-y-bont ar Ogwr “ar sail adborth positif” gan y cefnogwyr yn dilyn y gêm honno.

Hon fydd y gêm Ewropeaidd gyntaf ar y cae ers i’r Rhyfelwyr Celtaidd, yr hen ranbarth ddaeth i ben rai blynyddoedd yn ôl, guro Perpignan yn Ionawr 2004.

Mae rhanbarth y Gweilch hefyd yn cwmpasu caeau San Helen yn Abertawe a’r Gnoll yng Nghastell-nedd, ond dydyn nhw ddim wedi chwarae ar y naill neu’r llall ers blynyddoedd bellach.

Y Gweilch yw’r unig ranbarth yng Nghymru i gyrraedd rownd yr 16 olaf yn Ewrop y tymor hwn.