Cafodd Pencampwriaethau Dan Do Cymru eu cynnal yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol yng Nghaerdydd dros y penwythnos, gyda chystadlu brwd dros y ddau ddiwrnod gan athletwyr o Gymru a thu hwnt.
Yn ei rasys dan do cyntaf dros 400m, enillodd Hannah Brier Bencampwriaeth Cymru, 0.9 eiliad o flaen Siân Harry, mewn amser o 54.37 eiliad. Aeth Brier drwy hanner ffordd mewn 25.2 eiliad, ond oherwydd blinder wedi iddi redeg dwy ras ddydd Sadwrn, arafodd hi dipyn yn ystod yr ail lap. Er hynny, yn un o’r rasys hynny, y rownd gynderfynol, rhedodd hi 54.16 gan chwalu record y bencampwriaeth oedd wedi sefyll ers 2014.
Cafodd Lauren Evans benwythnos llwyddiannus gan ennill Pencampwriaeth Cymru yn y 60m dros y clwydi a’r naid uchel. Er hyn, ail oedd ei safle yn y ddwy gamp drwyddi draw, gan fod y Pencampwriaethau’n agored i athletwyr o’r tu allan i Gymru. Yn y 60m dros y clwydi, Marli Jessop groesodd y llinell derfyn yn y safle cyntaf, gan orffen mewn 8.32 eiliad. 8.45 eiliad oedd amser Evans, ei hamser gorau yn y gamp. Yn y naid uchel, aeth Evelyne Fonteyne 6cm yn uwch nag y mae wedi’i wneud erioed, gan glirio 1.81m. 1.68m oedd uchder gorau Evans.
Ymhlith y perfformiadau nodedig eraill roedd record newydd yn y naid hir i ddynion gan Luca Phillips ar gyfer athletwyr dan 17 o Gymru – neidiodd e bellter o 7.18m. Enillydd y gystadleuaeth honno oedd Samuel Khogali o Essex, gyda naid orau o 7.52m.
O ran athletwyr eraill o’r tu allan i Gymru greodd argraff, cliriodd Jade Ive o Surrey uchder o 4.31m i ennill y naid bolyn i fenywod am y trydydd tro, a rhedodd David King o Ddyfnaint 7.74 eiliad i ddod yn gyntaf yn y 60m dros y clwydi.
Yn rhan o’r Pencampwriaethau yn ogystal roedd cystadlaethau ar gyfer athletwyr dan 15 oed. Yr orau o’r merched ar draws y penwythnos oedd Aliyah Afolabi o Gaerdydd. Ddydd Sadwrn, yn y 60m, torrodd hi record y bencampwriaeth gan redeg 7.62 eiliad, tra ddydd Sul torrodd hi record y bencampwriaeth ar gyfer y 200m yn y rownd gynderfynol ac eto yn y rownd derfynol. Hannah Brier oedd yn dal y record honno, pan redodd hi 25.42 yn 2012. Ond aeth Afolabi’n gyflymach wrth ennill ei rownd gynderfynol mewn amser o 25.30 a chwalu’r amser hwnnw awr yn unig yn ddiweddarach wrth redeg 24.60 i ennill y teitl i ferched dan 15.
Ymysg y bechgyn, buodd Aidan Angilletta yn brysur a llwyddiannus tu hwnt. Enillodd y naid hir, y naid driphlyg a’r 60m dros y clwydi ar y diwrnod cyntaf, ac ennill medal arian yn y naid uchel ac efydd yn y gystadleuaeth taflu pwysau ar y dydd Sul.
Gydag un record Gymreig, rhai o’r perfformiadau gorau yn hanes y Bencampwriaeth a mwy o athletwyr yn cystadlu yn y Ganolfan Athletau Dan Do ar draws y penwythnos nag erioed o’r blaen, roedd hi’n gystadleuaeth i’w chofio.