Doedd “dim bwriad maleisus” gan Gary Lineker wrth gyfeirio at Gynghrair Cymru fel “cynghrair ffermwyr”, yn ôl un o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Casnewydd.
Daeth y sylw gan y cyflwynydd yn ystod rhaglen y BBC, wrth i Manchester United guro Casnewydd o 4-2 ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr neithiwr (nos Sul, Ionawr 28), a hynny er ei fod e wedi croesawu gwylwyr yn Gymraeg ar ddechrau’r rhaglen.
Ar ôl i Bruno Fernandes a Kobbie Mainoo roi’r ymwelwyr ar y blaen o 2-0 o fewn 13 munud, roedd hi’n edrych yn debygol y byddai’n noson hir i Gasnewydd.
Ond rhwydodd Bryn Morris i ddod â’r tîm cartref yn ôl o fewn un gôl erbyn yr egwyl.
Brwydrodd yr Alltudion yn galed yn yr ail hanner ar ôl gwneud newidiadau tactegol, gyda Will Evans yn ei gwneud hi’n 2-2 yn fuan wedi’r egwyl, cyn i Antony a Rasmus Højlund wneud iddi edrych yn debycach i grasfa nag yr oedd y gêm mewn gwirionedd.
“Roedd y pymtheg munud cyntaf yn anodd,” cyfaddefa Ben Moss wrth siarad â golwg360.
“Roeddwn i’n meddwl ’mod i’n gwybod pa mor dda oedden nhw, ond roedd y cyflymder ar lefel lawer uwch nag oeddwn i’n ei ddisgwyl.
“Ar ôl y cyfnod hwnnw, wnaethon ni setlo lawr a chwarae’n rili dda.
‘Cynghrair ffermwyr’
Fe fu tipyn o sôn yn ystod y cyffro cyn y gêm am Will Evans, ymosodwr Casnewydd sy’n hanu o deulu o ffermwyr yn Llangedwyn yn Sir Drefaldwyn.
Dywedodd Gary Lineker fod Evans yn gweithio ar fferm ddeunaw mis yn ôl, gan chwarae i dîm y Bala.
“Mae e wedi mynd o gynghrair ffermwyr i’r llwyfan mawr yng Nghwpan yr FA,” meddai.
Ond mae Ben Moss wedi amddiffyn sylwadau’r cyflwynydd.
“Dw i ddim yn credu bod bwriad maleisus gyda’r sylw ’farmer’s league’, ond roedd yn anffodus, wrth gwrs,” meddai wrth golwg360.
“Daeth y gêm i ben gyda phedwar chwaraewyr o Gynghrair Cymru ar y cae, sy’n dangos bod llawer o chwaraewyr o safon yng Nghymru.
“Mae Will Evans wedi gwella llawer ers iddo fe gael y cyfle i ymarfer mwy nag unwaith yr wythnos.
“Faint o chwaraewyr eraill yn Uwch Gynghrair Cymru sydd jyst angen cyfle?”
‘Bydd hi’n anodd cadw Will Evans’
Ar ôl canfod y rhwyd yn erbyn Manchester United, mae Will Evans bellach wedi sgorio 19 gôl y tymor hwn.
Yn ôl Ben Moss, mae ei berfformiadau hyd yn hyn yn golygu y bydd hi’n anodd i Gasnewydd ddal eu gafael arno fe, gyda’r ffenest drosglwyddo ar agor ar hyn o bryd.
“Dangosodd e fod gyda fe reddf ymosodol da iawn,” meddai.
“Nid dim ond rhywun sy’n rhoi’r bêl yng nghefn y rhwyd yw e.
“Mae’n ddeallus ar y cae, ac yn gwybod lle i symud y bêl. Mae gyda fe symudiadau da, a hefyd mae e’n amddiffyn o’r blaen, gan roi llawer o bwysau ar amddiffynwyr y gwrthwynebwyr, ac yn eu gorfodi nhw i wneud camgymeriadau yn aml.”
‘Dal yn swreal braidd’
Dydy 4-2 ddim yn gwneud cyfiawnder â pherfformiad Casnewydd o bell ffordd, ac fe wnaethon nhw roi Manchester United dan bwysau ar ôl i’r rheolwr Graham Coughlan wneud newidiadau gyda’i dîm ar ei hôl hi o 2-0.
Gyda’r sgôr yn gyfartal 2-2, byddai cefnogwyr yr Alltudion wedi bod yn breuddwydio mai tîm Erik ten Hag fyddai’r diweddaraf i ddioddef yn ne-ddwyrain Cymru, gyda Chasnewydd wedi curo sawl tîm mawr dros y blynyddoedd ac wedi dod yn agos iawn ar adegau eraill.
“Mae’n dal yn swreal braidd!” meddai Ben Moss.
“Dw i dal yn cofio colli yn erbyn Tiverton, Mangotsfield, a Team Bath yng Ngwpan yr FA yn y gorffennol.
“Dw i wrth fy modd yn gweld fy nhîm yn cystadlu yn erbyn un o fawrion y byd pêl-droed.
“Mae stori Clwb Pêl-droed Casnewydd yn un ysbrydoledig iawn, a dw i’n gwerthfawrogol iawn o’r bobl wnaeth achub y clwb amser maith yn ôl.
“Gyda pherchennog newydd [Huw Jenkins], a llawer o lawenydd o gwmpas y clwb, mae gyda ni gyfle i wthio ymlaen nawr.”
‘Os nad yw rhywun mo’yn dod ar ôl neithiwr…’
Gyda Chasnewydd wedi dangos eu hunain yn y ffordd orau bosib, daeth cyfle i’r clwb brofi pa mor gystadleuol yw pêl-droed ar y lefel honno, ym marn Ben Moss.
“Y peth pwysicaf neithiwr oedd bod yn gystadleuol a rhoi cynnig arni, a dyna beth wnaethon ni,” meddai.
“Gobeithio y gwelwn ni fwy o bobol yn cymryd diddordeb yn y clwb, ac yn dod i’r gemau ar ôl y perfformiad hwnnw.
“Ac os nad yw rhywun mo’yn dod ar ôl neithiwr, fyddan nhw byth!”