Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi denu’r asgellwr Ronald o glwb Grêmio Anapolis ym Mhortiwgal.

Dydy’r ffi ddim wedi cael ei ddatgelu, ond mae’r chwaraewr 22 oed o Frasil wedi llofnodi cytundeb tan 2027, gyda’r opsiwn o dymor arall y tu hwnt i hynny.

Bydd yn gwisgo crys rhif 35.

Cafodd y trosglwyddiad ei gadarnhau gan Abertawe, wrth iddyn nhw roi llun o fynydd Sugarloaf ym Mrasil ar ben llun o fryn Cilfái yn Abertawe.

Dechreuodd ei yrfa gyda chlwb Corumbaense, gan chwarae ei gêm gyntaf yn 17 oed.

Symudodd i Atletico Goianiense yn 2021, ac yna ar fenthyg i Grêmio ddwy flynedd yn ddiweddarach ac ennill y Campeonato Gaiano.

Symudodd yno’n barhaol ar ôl creu argraff ar y clwb, ac fe aeth o’r fan honno i Guarani ac yna i Estrela da Amadora, gan helpu’r clwb i ennill dyrchafiad.

Yn y cyfamser, mae Yannick Bolasie wedi gadael y clwb ar ddiwedd ei gytundeb byr, wedi iddo fe chwarae unarddeg o weithiau.