Am y tro cyntaf erioed, bydd cyfres am rygbi T1, sef fformat newydd o rygbi ar gyfer pobol o bob gallu, i’w gweld ar y teledu.
Yn y gyfres newydd Stryd i’r Sgrym ar S4C heno (nos Fawrth, Ionawr 30, 9 o’r gloch), yr her i Scott Quinnell fydd hyfforddi tîm o chwaraewyr o wahanol alluoedd a chefndiroedd.
Bydd y tîm yn chwarae gêm gystadleuol yn erbyn tîm o Loegr ar ddiwedd y gyfres.
Y tîm
Fformat newydd gafodd ei lansio gan World Rugby yn Paris cyn rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd ym mis Medi yw T1.
Mae’n gêm ddi-gyswllt, ond mae’n cynnwys nodweddion cyffredin rygbi fel y sgrym a’r lein.
Gyda’r pwyslais ar fwynhau, ffitrwydd a chynnwys pawb yn yr hwyl, mae’n gêm y gall unrhyw un ei chwarae.
Gobaith World Rugby yw y bydd y fformat newydd yma’n denu pobol at y gamp, a hynny mewn cyfnod pan fo pryderon am y gêm yn sgil anafiadau, yn enwedig ergydion i’r pen.
Yn rhan o’r tîm hyfforddi gyda Scott Quinnell mae Ken Owens, cyn-gapten tîm dynion Cymru; Alex Jones, un o hyfforddwyr Undeb Rygbi Cymru; Siwan Lilicrap, cyn-gapten tîm menywod Cymru; a Billy McBryde, sy’n chwarae i’r Doncaster Knights.
Yn helpu gyda’r broses mae Osian Leader, seicotherapydd o’r elusen School of Hard Knocks.
Mae’r elusen yn helpu pobol i wella’u hiechyd meddwl a chorfforol, a rôl Osian Leader fydd sicrhau bod yr heriau mae’r cyfranwyr yn eu hwynebu yn gamau positif ymlaen yn eu bywydau.
Y pencadlys am y tri mis nesaf fydd y Trallwng, ac mi fydd y criw hefyd yn hyfforddi yng Nghefneithin a Chlwb Rygbi Nant Conwy.
Yr un cyfleoedd i bawb
Mae rhai wedi chwarae rygbi o’r blaen, ac eraill yn ddechreuwyr pur, ond mae pob un wedi wynebu heriau gwahanol, gan gynnwys Dylan Evans o Waunfawr.
Mae e eisoes yn aelod o Glwb Rygbi’r Stingrays ym Mae Colwyn, sy’n dîm i bobol â gwahanol alluoedd, ond mi wnaeth y fformat newydd yma ddal ei sylw.
Cafodd e ddiagnosis o ADHD pan oedd yn saith oed, ac yn ddiweddar iawn cafodd e ddiagnosis o awtistiaeth hefyd, ac mae’n ei gweld hi’n anodd cyfathrebu gyda phobol ar adegau.
“Tydi o ddim wedi cael cyfleoedd fel pobol ifanc eraill yr un oed oherwydd ei bersonoliaeth a’i gymeriad o, a pha mor anghenus mae o wedi bod, sydd ddim yn deg iawn,” meddai Jackie, mam Dylan.
“Dwi’n meddwl y dylai pob person a phlentyn gael yr un cyfleoedd mewn bywyd.”
Mae Scott Quinnell yn angerddol iawn am helpu pobol i gael yr hyder i chwarae, a’r cyfle i gydweithio fel tîm.
“Oherwydd alla i ddim chwarae mwy, dydw i ddim yn rhan o dîm bob wythnos,” meddai.
“A dw i’n gweld eisiau bod yn rhan o dîm – chi yw fy nhîm i.”