Mae bron i £500,000 yn cael ei wario i greu fideos byr i blant ar gyfer sianel YouTube newydd Dewin a Doti.

Yn sgil grant o ryw £497,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Mudiad Meithrin wedi gallu penodi tri o staff i weithio ar y cynllun fydd yn arwain at greu tua 120 o fideos.

Mae Dewin a Doti eisoes yn gymeriadau hoffus sy’n perthyn i’r mudiad, a byddan nhw’n rhan greiddiol o’r sianel newydd.

‘Dathlu ein diwylliant’

Mae’r tîm newydd, sy’n cynnwys Arweinydd Prosiect Digidol, Uwch Swyddog Ffilmio a Golygu a Swyddog Marchnata Digidol, wedi dechrau ar y gwaith fis Ionawr, ac yn anelu i ryddhau’r gyfres gyntaf o fideos ym mis Mawrth 2024.

“Dw i’n falch iawn i fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn,” meddai Fflur Dafydd, arweinydd y prosiect.

“Mae cymaint o gefnogaeth a chynnwrf o fewn y Mudiad am y prosiect mae’n fraint cael bod yn rhan ohono.

“Dwi’n edrych ymlaen at weithio â chymunedau lleol y Mudiad ledled Cymru i gynhyrchu cynnwys fydd yn dathlu ein diwylliant a’n hiaith gan ddod â’r Gymraeg i gartrefi plant bach a’u teuluoedd.”

Gyda chyfraniad teuluoedd a chymunedau, bydd y sianel yn cyflwyno amrywiaeth o gynnwys addysgiadol, gan ddod â gwaith Mudiad Meithrin i blatfform ar-lein.

‘Hyrwyddo’r Gymraeg’

Dywed Rob Roffe, Pennaeth Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin y Loteri Genedlaethol, eu bod nhw’n edrych ymlaen at weld y gwaith.

“Llongyfarchiadau i Mudiad Meithrin ar eich grant,” meddai.

“Edrychwn ymlaen at weld y gwaith creadigol rydych chi’n ei wneud i hyrwyddo’r Gymraeg i blant ifanc a’u teuluoedd gyda’r fideos newydd hyn.”