Mae’r grŵp lleisiol Enfys wedi dod yn ôl at ei gilydd i ganu teyrnged i’w diweddar athrawes ganu, Leah Owen, fu farw ddechrau’r mis yn 70 oed.
Mewn fideo ar YouTube, rhannodd ei chyn-ddisgyblion deyrnged iddi drwy ganu ‘Mae’r Rhod yn Troi’ gan Gwennant Pyrs.
Wedi’i magu yn Rhosmeirch ar Ynys Môn cyn byw ym mhentref Prion yn Sir Ddinbych, enillodd Leah Owen bedair gwobr yn Eisteddfod Rhydaman yn 1970.
Yn ystod y ddegawd honno, cafodd hi lwyddiant mewn nifer o Eisteddfodau Cenedlaethol, a rhwng 1975 a 2001 recordiodd hi sawl albwm unigol gyda label Sain.
Hi oedd un o enwau mwyaf cyfarwydd y byd cerdd dant, a bu’n gyfrifol am osod nifer o osodiadau ar gyfer cystadlaethau mewn Eisteddfodau lleol ac yn y Brifwyl.
Roedd Leah Owen wedi bod yn derbyn triniaeth am ganser ers peth amser.
Teyrnged Enfys
Ymysg y criw yn y fideo mae Celyn Cartwright, Ruth Roberts, Ceri Roberts, Amber Davies, Jade Davies, Mared Thomas, Leah Thomas, Mared Williams, Siriol Elin, Steffan Hughes, Angharad Rowlands a Bethany Celyn.
Yn ôl un o’r gwylwyr, mae’n “deyrnged hyfryd i Leah”, sy’n “golled i Gymru oll”.