Un o’r pethau rwy’n ei fwynhau fwyaf am fod yn artist llawrydd yw’r amrywiaeth o brosiectau rwy’n ffeindio fy hun yn rhan ohonyn nhw. Ymhellach, mae’n braf weithiau pan fydd gweithgareddau cwbl wahanol yn plethu o’m cwmpas, gan gyfoethogi ei gilydd. A rhyw bythefnos bach fel’na dw i wedi ei gael ers fy ngholofn ddiwethaf.

Mynychu sesiwn clytwaith a brodwaith

Gwelais hysbyseb ar Facebook am sesiwn clytwaith a brodwaith am ddim draw yn Llanfihangel-Glyn-Myfyr. Daliodd fy llygad gan taw un o fan acw oedd taid fy nhad, Wmffre, ac fe gerddodd draw i Rhosllannerchrugog (ar ei ffordd i Ddociau Lerpwl) a setlo ene i fod yn löwr a magu teulu. Roeddwn hefyd eisiau gwneud rhywbeth oedd ddim ar y cyfrifiadur, er mwyn cael ymlacio rhywfaint.

Yn ddigon ysmala, rwy’ hefyd wrthi ar hyn o bryd yn adolygu fy nghyfrol newydd, Cwilt Clytwaith Goareig, gaiff ei chyhoeddi cyn bo hir hefo gwasg Fahmidan ac sy’n cynnwys cerddi am aelodau fy nheulu estynedig, gan gynnwys Wmffre; felly roedd gweithio hefo brethyn ac edau â’r potensial i fod yn ddefnyddiol, yn ogystal â bod yn hwyl (mwy am hynny rywbryd eto).

Beth bynnag. Gyrrais draw i Nant-yr-odyn a ffeindio’n hun mewn sesiwn hyfryd, yn dysgu sut i wneud gwaith brodio, ac yna clytwaith, hefo’r artist llawrydd Bev Elgar. Defnyddiais fy nghylch brodio newydd am y tro cyntaf, gan ddysgu sut i greu delwedd allan o sbarion deunydd a phwythau rhydd.

Cefais amser bendigedig, gan gynnwys sgwrs hyfryd ar ddiwedd y sesiwn am daith iaith Bev a rhai o’r trefnwyr eraill fel dysgwyr… a pha mor briodol yw defnyddio’r gair ‘bendigedig’ mewn brawddeg!

Sesiwn awen aml-cyfrwng yn y Stiwt

Fel y soniais yn fy ngholofn ddiwethaf, roeddwn wedi bod yn paratoi ar gyfer sesiwn ysgrifennu creadigol yn y Stiwt yn Rhosllannerchrugog, Wrecsam, ar y cyd â ‘Chylchgrawn Cwlwm’. Ond fel sydd yn digwydd weithiau, fe wnaeth y cynlluniau newid ychydig, wrth addasu i chwaeth y rheini oedd wedi mynychu’r sesiwn.

Cawsom drafodaeth ddifyr tu hwnt am LEGO, a meddalwedd sydd yn defnyddio llun o adeilad neu wrthrych i greu cynllun adeiladu ac yn gweithio allan drosoch chi faint o LEGO a pha fath o ddarnau fydd eu hangen arnoch chi i wneud y darn. A tasa’ hynny ddim yn ddigon, mae yna raglen debyg i wneud yr un peth ond hefo crosio!

Mae’r gwaith o wireddu’r syniadau creadigol ddaeth o’r gweithdy yn parhau, ond mae’n edrych yn debygol felly y bydd yna luniau yng nghylchgrawn Cwlwm o gerfluniau amrywiol ddaeth o’r prosiect; mi fydd rhain yn cynnwys fy fersiynau mwy low-tech i, megis brodwaith a chlytwaith, gan ddefnyddio’r technegau ddysgais draw yn Llanfihangel-Glyn-Myfyr.

Cawsom sgyrsiau niferus am gerddoriaeth, gan gynnwys ymatebion y grŵp i’r caneuon neu gerddoriaeth roedden ni i gyd wedi eu dewis. Fe wnaeth hyn arwain at sgwrs am atgofion o olchi’r llestri gyda hangover, i gyfeiliant finyl o gerddoriaeth Affricanaidd, ac yna at hiraethu am fywydau deinamig ieuenctid.

Ac o’r clebran amldroellog yma ddaeth y sgwrs am Moonstomping, sef enw ar fath o ddawns a phrosiect un o’r mynychwyr hefyd. Caiff y trosiad o coat-hanger ei ddefnyddio i gynrychioli gwahanol genres o gerddoriaeth, a datblygodd hyn wedyn drwy ddefnyddio’r syniad o wisgdy yn y Stiwt, a’r ystafelloedd niferus fel llefydd fydd gan rai dawnswyr fwy o deimlad o berthyn ynddyn nhw.

Mi wn nad ydw i wedi llwyddo i wneud cyfiawnder â’r cysyniad o Moonstomping fa’ma, ond mae yna ysgrif hyfryd amdano fo ar y gweill, felly byddai’n braf pe baech chi’n darllen amdano yn y cylchgrawn. Mae yna gerdd benigamp hefyd yn crynhoi gweithgareddau’r diwrnod mewn ffordd ffraeth, bowld, ac rydym i gyd wrthi’n mireinio ein cynigion ar hyn o bryd.

Gyrfa mewn clytwaith

Ac wrth i mi baratoi’r golofn hon, dw i’n gwenu wrth feddwl pa mor briodol yw’r syniad o glytwaith fel trosiad am fy ngyrfa lawrydd i erbyn hyn.

Glaniodd tasgau’r Talwrn yn fy mewnflwch neithiwr, a fues wrthi’n gweithio arnyn nhw wrth rannu pryd o fwyd pen-blwydd hefo fy ngŵr draw yn Miller & Carter – O, oes! Mae gin i syniad dwl dros ben ar gyfer y gân ysgafn, ac mae aelodau newydd o dîm Talwrn Tegeingl wrthi’n englyna a threfnu’r tasgau’n barod.

Bore ‘ma, fues wrthi’n e-bostio mynychwyr y gweithdy ‘cw am y gwahanol syniadau a chyfraniadau, ac yna dros ginio mynychais gyfarfod Zoom hefo Theatr Genedlaethol Cymru, gan ymgynghori ar sut i wneud y gwaith capsiynau a hygyrchedd ar gyfer sioe newydd sydd ganddyn nhw ar y gweill.

Ar ôl cinio, cefais gyfarfod cyffrous am brosiect newydd, lle byddaf yn plethu fy ngwybodaeth am gerddoriaeth, dirgryniadau, celf a barddoniaeth – a hefyd am ferched arloesol! Am brosiect cyffrous! Ar ôl te, byddaf yn gwneud ychydig o waith fel adolygydd i’r cyfnodolyn Fahmidan.

Yna, bore fory, byddaf yn codi’n fuan i sbïo dros fy nodiadau ac adroddiad arholwr allanol ar draethawd hir doethuriaeth ysgrifennu creadigol cwbl hyfryd. Wedyn, byddaf yn mynychu’r cyfarfod ‘cyn-viva’ ac yn cynnal y Viva Voce, gan wirio fy nealltwriaeth o’r gwaith drwy ofyn cwestiynau.

Byddaf, wedi hynny, yn mynd yn ôl i baratoi cynigion i’r Talwrn, paratoi at bwyllgor sydd gen i’r wythnos nesaf ym myd y celfyddydau… ac yn cwblhau fy ffurflenni treth blynyddol, gan geisio pwytho’r patshys yma i gyd at ei gilydd! Mae gwaith mireinio gen i hefyd ar fy allbwn creadigol ddaeth o’r rhaglen ‘Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad’, gan ystyried wedyn lle i’w hanfon nhw.

Ond, fel unrhyw cwilt clytwaith gwerth ei halen, mae yna rimyn pendant yn tynnu’r cwbl at ei gilydd, a’r celfyddydau yw hwnnw; braf iawn yw sbïo dros fy ngyrfa a gweld pa mor hardd ac amrywiol yw hi erbyn hyn!