Ar Ddydd Santes Dwynwen (Ionawr 25), mae S4C yn chwilio am gyplau i briodi ar Priodas Pum Mil.
Bydd pennod olaf y gyfres gyfredol yn cael ei dangos nos Sul (Ionawr 28), gyda phriodas Abbey a Danial o Bwllheli.
Erbyn hyn, mae’r cyflwynwyr Emma Walford a Trystan Ellis-Morris wedi helpu i drefnu bron i hanner cant o briodasau.
Dydy’r pâr sy’n priodi ddim yn cael gwybod am drefniadau’r briodas, a rhaid i bopeth gostio llai na £5,000.
“Mae pob un rhaglen, pob un cwpwl, eu ffrindiau a’u teuluoedd, wedi bod yn arbennig,” meddai Emma Walford.
“Mae’r gyfres yn fwy na jyst rhaglenni teledu, da ni’n trefnu diwrnod pwysicaf bywydau y cyplau a dwyt ti wir ddim eisiau siomi neb!
“Ond hyd yma, efo bron i 50 o briodasau wedi bod, mae hi’n parhau yn llwyddiannus.”
‘Annod unrhyw un i wneud cais’
Bydd cyfres newydd yn dechrau fis Tachwedd eleni, a gall y priodasau fod yn rhai traddodiadol neu’n dilyn thema benodol – megis naws Eidalaidd, dartiau neu Alice in Wonderland.
“Baswn i’n annog unrhyw un sydd awydd priodi i wneud cais i’r rhaglen,” meddai Emma Walford wedyn.
“Mae cymaint o brofiad efo ni fel tîm erbyn hyn, ond allwn ni ddim ei gwneud hi heb deulu a ffrindiau’r cwpwl wrth gwrs.
“Does dim ots os oes thema neu beidio, eich bod chi am briodi adref yn lleol, neu falle am fentro yn bellach i ffwrdd.”
Yn y bennod ddiwethaf, priododd Dan a Sara Bell o Benygroes yng Ngwynedd yn Gretna Green yn yr Alban, er enghraifft.
Mae’n bosib gwneud cais drwy fynd i wefan Boom Cymru.