Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig cwmni theatr Arad Goch, yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos hon ei fod e’n ymddeol.

Roedd yn un o sylfaenwyr y theatr yn 1989 pan gafodd Theatr Crwban, y theatr-mewn-addysg Cymraeg cyntaf, a’r cwmni arbrofol Cwmni Cyfri Tri gyda Mari Rhian Owen, Mair Tomos Ifans, Siôr Llyfni, Ellen ap Gwynn a Catrin Hughes, eu huno.

Gweledigaeth barhaus y Cyfarwyddwr oedd un o’r rhesymau am ei lwyddiant ar hyd y degawdau, a bellach mae’r cwmni yn edrych am olynydd iddo.

O oerni hen sgubor i adeilad newydd sbon

Mewn datganiad ar wefan Arad Goch, dywed Jeremy Turner mai “ond un ffôn oedd gyda’r cwmni, dau gyfrifiadur Amstrad a thair desg” ar y dechrau, ac y bydden nhw’n cynnal ymarferion yn oerni hen Ganolfan y Sgubor yn Aberystwyth.

Ond mae’r cwmni a’r adeilad wedi datblygu ers hynny.

Yn 1992, fe brynodd y cwmni’r adeilad sydd bellach wedi ei addasu’n ganolfan, theatr ac adnoddau eraill yng nghanol tref Aberystwyth, gyda nawdd sylweddol o dros £3.6m yn 2008 ac yna’n ddiweddarach yn 2018.

Oherwydd gweledigaeth a chefnogaeth Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Gâr, mae’r cwmni’n parhau i ddarparu theatr mewn ysgolion a chyflwyno dramâu i blant a phobol ifanc mewn theatrau ledled Cymru a thu hwnt.

Y cwmni yw un o brif ddarparwyr theatr i bobol ifanc yng Nghymru, gan gyrraedd tua 24,000 o bobol ifanc bob blwyddyn rhwng y perfformiadau a’r gweithgareddau creadigol cyfranogol, a’u helpu i “werthfawrogi eu hunaniaeth fel Cymry”.

‘Cyfle i fentro a chroesi ffiniau’

“O dan arweiniad Jeremy yr esblygodd Arad Goch i fod o gwmni sirol i gwmni cenedlaethol ac i un rhyngwladol,” meddai’r Athro Elin Haf Gruffudd Jones, cadeirydd Bwrdd Rheoli Arad Goch, wrth golwg360.

“Cadwodd yn driw at ei egwyddorion o gyflwyno byd theatr mewn addysg.

“Caniataodd i blant a phobol ifanc, waeth beth fo’u cefndir, i gael mynediad at y theatr, ac roedd yn egwyddor craidd mewn democratiaeth i Arad Goch ar hyd y blynyddoedd.”

Roedd wedi sicrhau bod plant a phobol ifanc yn cael cymryd rhan gynyddol yn natblygiad gwaith theatr, gan roi cyfleodd i’r to ifanc a “chenhedlaethau ifancach na fo’i hun” i feithrin sgiliau cyfarwyddwyr, artistiaid ac awduron, meddai.

Y cynhyrchiadau sy’n aros yn y cof, meddai, yw Cysgu’n Brysur, sy’n bwysig o ran cynhyrchu sioe gerdd gyfoes Gymraeg a cherddoriaeth wreiddiol Gymraeg; Lleuad yn Ole, sy’n adeiladu ar lenyddiaeth Gymraeg i blant a chynhyrchu sioe sydd wedi’i seilio ar hanes a chwedloniaeth Cymru; a’r cynhyrchiad uchelgeisiol Hen Llinell Bell, oedd yn brosiect cymunedol yn Aberystwyth gydag “elfennau gwahanol o’r cynhyrchiad yn digwydd mewn rhannau gwahanol o’r dref”.

Perfformio’n fyd-eang

Dywed Mair Tomos Ifans, un o gyd-sylfaenwyr cwmni Theatr Arad Goch, fod y “swmp enfawr o waith mae o ac Arad Goch wedi’i greu yn y 35 mlynedd ddiwethaf yn tystio i weledigaeth ac egni Jeremy i ddal at i wthio a chroesi ffiniau”.

“Nid efelychu be’ sy’n digwydd drws nesaf yn Lloegr fu uchelgais Jeremy, ond creu cynyrchiadau Cymreig fyddai’n adlewyrchu pob math o ddylanwadau rhyngwladol.”

Erbyn heddiw, mae’r cwmni wedi mynd â’u gwaith i lwyfannau rhyngwladol ac wedi perfformio yn Rwsia, De Corea, Tiwnisia, Ffrainc, Catalwnia a Gwlad Pŵyl.

Dywed Jeremy Turner fod “rhoi theatr o Gymru ar fap rhyngwladol a gwahodd cwmnïau theatr rhyngwladol i Gymru, i gydweithio â ni yng nghŵyl Agor Dysau [er enghraifft] yn elfen bwysig o’n gwaith”.

‘Dyfeisgar, amryddawn, penderfynol’

“Dyfeisgar, amryddawn a phenderfynol” yw disgrifiad yr Athro Elen Haf Gruffudd Jones o Jeremy Turner.

“Un o’r pethau sy’n wir yn bwysig wrth feddwl amdano yw ei waith arloesol, ei waith blaengar, ei fod wedi meddwl yn Gymraeg, yn Gymreig a rhyngwladol ar yr un pryd, ac agor llawer o ddrysau gan fynd â’r Gymraeg a’i rhoi o flaen pobol ddi-Gymraeg,” meddai.

“Mae’n haeddu cael ymddeol wedi’r holl flynyddoedd yn creu, yn sefydlu, yn datblygu ac yn adeiladu, nid yn unig y cynhyrchiadau ond hefyd y gofod teilwng ar gyfer cynnal i’r dyfodol theatr i blant, i bobol ifanc ac i’r gymuned yn gyffredinol,” meddai Mair Tomos Ifans.