Mae’r band Crinc wedi cyhoeddi sengl newydd mewn ymateb i’r digwyddiadau yn Gaza.

Bydd holl elw’r sengl newydd yn mynd tuag at Unicef, elusen sy’n helpu plant ym Mhalesteina, ynghyd â phlant difreintiedig mewn 190 o wledydd eraill ledled y byd.

Mae dros 1.9m o bobol wedi cael eu dadleoli ar Lain Gaza, eu hanner nhw’n blant, ers i Israel ymosod ar y llain yn dilyn ymosodiad Hamas ar Hydref 7 y llynedd.

Erbyn hyn, mae dros 25,000 o bobol wedi cael eu lladd yno, eu hanner nhw’n blant.

Fe fydd ‘Crachach’, sy’n ymddangos ar yr albwm Cig Cymreig ddaeth allan ym mis Medi, yn cael ei chyhoeddi fel sengl ddydd Gwener (Ionawr 26).

‘Teimlo’n hopeless’

Geiriau Aneurin Bevan o araith draddododd e yn 1956 mewn ymateb i Argyfwng Suez – pan wnaeth Prydain, Ffrainc ac Israel oresgyn yr Aifft – oedd ysbrydoliaeth y gân.

Roedd y Cymro yn gwrthwynebu’r goresgyniad, ac mewn araith yn Sgwâr Trafalgar erfyniodd ar y tair gwlad i adael yr Aifft.

“Roeddwn i wedi bod ar YouTube ac wedi ffeindio araith Aneurin Bevan, ac mae o’n dweud ‘back to chaos, back to anarchy, back to universal destruction’, ac roeddwn i’n meddwl y bysa hynna’n hook da i gân,” meddai Llŷr Alun o’r band wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl bod y geiriau’n addas i beth sy’n mynd ymlaen yn Gaza.

“[Roeddwn i’n] teimlo’n hopeless am bob dim sy’n mynd ymlaen ym Mhalesteina, felly penderfynu ei ryddhau fel sengl.

“Mae yna lot o fandiau Cymraeg sydd ddim yn dweud dim byd am y peth, ac roeddwn i’n meddwl bod waeth i ni wneud rhywbeth.

“Mae yna ryw ddyfyniad, os ti’n niwtral, ti’n cymryd ochr y gorthrymwr,” ychwanega Llŷr Alun gan gyfeirio at y dyfyniad ‘The only thing necessary for the triumph of evil is for good men to do nothing’.

Cafodd y gân ei hysgrifennu gan Llŷr Alun yn ystod y cyfnod clo cyntaf, a chafodd y demo ei recordio ar gyfer yr albwm Cofi-19 bryd hynny.

“Doeddwn i ddim yn licio’r final product gydag electric drum kit o GarageBand, felly fe wnaethon ni ailrecordio yn y Buarth, yn fyw gyda Dafydd Ieuan a Kris Jenkins, ar ôl fi symud i Gaerdydd.”

Prynnwch y sengl, sy’n cael ei chyhoeddi gan Recordiau Noddfa, a bydd unrhyw elw’n mynd i Unicef.