Mae’r BBC wedi cyhoeddi bod rhaglen deledu’r gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd yn destun proses dendr gystadleuol.
Mae’r un yn wir am y rhaglen Blue Peter, cystadleuaeth ganu’r Eurovision Song Contest a gwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn.
Bydd y Gorfforaeth yn cadw’r holl hawliau ar gyfer y rhaglenni, fydd yn parhau i gael eu darlledu ganddyn nhw, ond bydd y broses yn penderfynu pwy fydd yn cynhyrchu’r rhaglenni.
Bydd adran gomisiynu’r BBC yn gwahodd ceisiadau gan gynhyrchwyr, ac yn cyhoeddi’r meini prawf ar gyfer ymgeiswyr.
Bydd y broses ar gyfer Canwr y Byd yn dechrau’n ddiweddarach eleni, gyda’r tair rhaglen arall yn destun proses dendr o fis nesaf.
Daw hyn wrth i ofynion Siarter a Chytundeb y BBC fynnu bod rhaid agor mwy o raglenni i fyny i gystadleuaeth.
Roedd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yn destun proses dendr yn 2019, a’r rhaglen bellach yn cael ei chynhyrchu gan dîm mewnol y Gorfforaeth, ond fydd timau mewnol ddim yn cystadlu y tro hwn.
“Mae’r pedwar brand hwn yn bwysig dros ben, ac yn cynrychioli’r ystod neilltuol mae’r BBC yn ei gynnig – ac o’u rhoi nhw allan i dendr, rydym yn tanlinellu ein hymrwymiad i sicrhau’r rhaglenni gorau posib a’r gwerth gorau i gynulleidfaoedd.”