Bydd gan bobol mewn tair ardal o Gymru fynediad at werth can mlynedd o raglenni teledu Cymraeg yn sgil datblygiad newydd.

Mae cannoedd ar filoedd o raglenni radio a theledu o archifau S4C, BBC Cymru Wales ac ITV Cymru Wales ar gael yn Llanrwst, Conwy ac Abertawe, ynghyd â’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, bellach.

Fel rhan o Archif Ddarlledu Cymru, mae Corneli Clip yn cael eu hagor ar hyd a lled y wlad fel y gall pobol gael gafael ar y rhaglenni yn nes at adre.

Llyfrgell Llanrwst, Archifau Gorllewin Morgannwg yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe a Chanolfan Ddiwylliant Conwy ydy’r tri lleoliad cyntaf i gael Corneli Clip.

“Mae’n bleser mawr gweld y Corneli Clip hyn yn agor – ymhlith y cyntaf o lawer ledled Cymru a fydd yn dod â’r archif genedlaethol arloesol hon yn agosach at y cyhoedd,” meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

“Mae’r Llyfrgell yn diolch i Gynghorau Sir Conwy ac Abertawe am eu cydweithrediad parod i hwyluso’r gwaith o greu’r gofod hwn a fydd yn gam mawr ymlaen i ni o ran darparu mynediad i’n casgliadau, hyrwyddo ymgysylltiad lleol a ymchwil grymusol.”

‘Menter wych’

Archif Ddarlledu Cymru yw’r gyntaf o’i math yng ngwledydd Prydain, gan olrhain bron i ganrif o ddarlledu, mae’n dod â deunydd o gasgliadau sgrin a sain BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ynghyd.

“Rwy’n falch iawn y gall gwasanaeth Llyfrgell Conwy gynnal dau o’r Corneli Clip hyn fel bod gan bobl Sir Conwy fynediad i’r archif wych hon,” meddai’r Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden Cyngor Sir Conwy.

“Mae’n fenter wych. Mae’n caniatáu i bobl leol ddysgu am hanes yr ardal hon yn ogystal â hanes Cymru yn fwy cyffredinol.

“Bydd yn wych cael ysgolion lleol i ddod i ymweld â’r ganolfan a defnyddio’r cyfleuster hwn.”

Ychwanega’r Cynghorydd Robert Smith, aelod cabinet Cyngor Abertawe, ei bod hi’n “wych” gweld y datblygiad yn y ddinas.

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r rhwydwaith Corneli Clip newydd,” meddai.

“Rwy’n siŵr y bydd pobol Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a thu hwnt yn gwneud defnydd llawn o’r adnodd gwych hwn.”

‘Diogelu a rhannu treftadaeth’

Roedd prosiect Archif Ddarlledu Cymru’n bosib drwy gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a chronfeydd preifat y Llyfrgell Genedlaethol.

“Mae darlledu wedi chwarae rhan bwysig yn dogfennu hanes y Gymru fodern – o adroddiadau newyddion torcalonnus o’r lleoliad trychineb Aberfan; i ddarlithoedd ysbrydoledig fel Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis, darllediad cyntaf S4C yn 1982 a llwyddiannau ac isafbwyntiau tîm pêl-droed Cymru yn yr Euros yn 2016 a Chwpan y Byd yn 2022,” meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

“Mae hefyd wedi ein galluogi i edrych yn ôl a dysgu am ein treftadaeth drwy raglenni fel The Dragon Has Two Tongues: A History of the Welsh yn 1985 ac mae wedi rhoi Cymru ar y map gyda chyfresi poblogaidd fel Doctor Who, Keeping Faith a Hinterland.

“Ein braint yw cefnogi’r prosiect pwysig a blaengar hwn a fydd yn diogelu ac yn rhannu treftadaeth ddarlledu Cymru fel y gall cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol werthfawrogi, mwynhau a dysgu ohono am flynyddoedd i ddod.”