I ddathlu 70 mlynedd ers darlledu drama fwyaf adnabyddus Dylan Thomas, mae pum dramodydd wedi ysgrifennu portreadau dramatig o’u hardaloedd.
Cafodd Under Milk Wood ei darlledu ar y radio am y tro cyntaf yn 1954, ac yn y ddrama mae’r adroddwr yn gwahodd gwrandawyr i wrando ar freuddwydion a meddyliau trigolion tref ddychmygol Llareggub.
Manon Steffan Ros, Menna Elfyn, Hanan Issa, Joe Dunthorne a Rachel Trezise ydy’r pump sydd wedi mynd ati i ysgrifennu’u darnau eu hunain yn edrych ar eu hardaloedd nhw – Tywyn, Ceinewydd, Caerdydd, Abertawe a’r Rhondda.
Mae’r gyfres Under Milk Woods yn cael ei hadrodd gan Ruth Jones, awdur a seren Gavin & Stacey, ac mae’r dramâu’n cynnwys actorion fel Ifan Huw Dafydd, Gwion Morris Jones a Lois Meleri Jones.
Cafodd y gyntaf ei darlledu neithiwr (nos Lun, Ionawr 22) ar BBC Radio 3, gyda’r pedair arall ar y radio bob nos gydol yr wythnos hon.
Tro Manon Steffan Ros fydd hi heno (nos Fawrth, Ionawr 23), am 10.45yh, ac mae’r profiad wedi bod yn freuddwyd i’r awdur, sy’n un o golofnwyr Golwg.
“Ro’n i mor hapus pan gefais i’r e-bost yn cynnig y gwaith i mi,” meddai Manon Steffan Ros wrth golwg360.
“Dw i’n hoff iawn o odrwydd Under Milk Wood, y ffaith fod yna gymaint o ysgafnder a harddwch geiriol, ond fod yna ambell ran reit ddychrynllyd hefyd. Dw i’n edmygu’r dewrder yna.
“Ac mae’n rhaid i mi ddweud fod cyfieithiad T. James Jones yn gampwaith, ac efallai’n ddylanwad mwy na’r gwreiddiol.”
Map llenyddol Cymru
Roedd y cyfle i edrych ar ei milltir sgwâr yn Nhywyn, Sir Feirionnydd mewn ffordd newydd, fwy gwrthrychol yn ei denu hefyd, meddai Manon Steffan Ros.
“Fe ddaeth y syniadau o’r byd dwi’n gweld drwy ffenestri fy nhŷ, a’r llwybrau dwi’n eu cerdded.
“Dw i wedi creu cymeriadau fyddai’n ffitio i mewn yn y cynefin yma, y llwybr penodol iawn o’r sinema i lawr am y Gwalia tuag at afon Dysynni.
“Mae’r ddrama’n archwilio ychydig ar sut brofiad ydi bod yn rhan barhaol o dref sy’n dibynnu ar bobol sydd ond yma am wythnos, mewn AirBnBs neu dai gwyliau.”
Mae Under Milk Wood yn seiliedig, yn fras, ar Dalacharn, lle bu Dylan Thomas yn byw am gyfnod.
“Dw i’n meddwl fod Under Milk Wood yn rhan mor bwysig o’n map llenyddol ni yma yng Nghymru, rydyn ni i gyd mor gyfarwydd efo’r arddull,” meddai Manon Steffan Ros.
“Felly wnes i ddim meddwl gormod am y peth, dim ond ystyried Tywyn a chymeriad y dref a’r bobol sy’n bodoli ynddi.
“Dw i’n meddwl fod y ffaith mai teyrnged i Under Milk Wood ydi’r darn wedi rhoi mwy o ryddid i mi fod yn fwy barddonol a disgrifiadol na beth sy’n arferol i mi, oedd yn brofiad mor braf.
“Yr unig beth ro’n i’n gorfod atgoffa fy hun o hyd oedd mai drama fodern ydi hon, ac mae Under Milk Wood yn perthyn mor bendant i gyfnod gwahanol.
“Ond eto, mae yna ryddid hyfryd mewn cael sgwennu am bethau fel vapes ac airpods mewn iaith sy’n reit flodeuog a rhamantus!”
‘Breintiedig iawn’
Ruth Jones, Sara Harris-Davies, Gwion Morris Jones a Lois Meleri Jones sy’n perfformio yn nrama Manon Steffan Ros, ac roedd y dramodydd wrth ei bodd yn cael y cyfle i weithio efo nhw.
“Mae eu perfformiadau nhw mor berffaith… Mae yna gydbwysedd hyfryd yn y ffordd maen nhw’n creu’r cymeriadau,” meddai.
“Dw i’n freintiedig iawn fy mod i’n cael cyd-greu efo pobol fel nhw a’r cynhyrchydd, Emma Harding.”
Bydd y pum drama’n cael eu darlledu fel omnibws nos Sul (Ionawr 28) am 7:30 ar raglen Drama on 3 ar BBC Radio 3 hefyd, ac ar gael ar BBC Sounds.