Mae pennaeth Cyngor y Celfyddydau’n galw am drafodaeth genedlaethol am werth y celfyddydau.
Daw’r alwad gan Dafydd Rhys ar ôl iddo siarad â rhaglen Front Row ar Radio 4 am doriadau i’r celfyddydau.
Cafodd ei holi am doriad o 10.5% yng nghyllideb Cyngor y Celfyddydau fel rhan o Gyllideb Llywodraeth Cymru.
“Mae hwn yn doriad sylweddol i’r celfyddydau,” meddai.
“Yn 2010, roedd Cyngor y Celfyddydau yn derbyn tua £35m y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru.
“Y gyllideb sy’n cael ei chynnig ar gyfer 2024 yw £30m.
“Felly mewn termau real, mae’n doriad o ryw 37% ers 2010.
“Os ydym yn derbyn fod lefel y gwariant yn iawn yn 2010, dylem nawr fod yn derbyn oddeutu £55m.
“Mae hwn yn gyfnod arwyddocaol ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yn gyffredinol yng Nghymru.”
‘Diwylliant yn rhan annatod o DNA Cymru’
Aeth Dafydd Rhys yn ei flaen i nodi bod diwylliant yn rhan annatod o DNA Cymru.
Ond mae lefel y buddsoddiad wedi bod yn gostwng dros nifer o flynyddoedd er gwaethaf hyn, meddai.
“Rwy’n credu bod yr amser wedi dod am drafodaeth genedlaethol ynghylch gwerth y celfyddydau, a sut gallwn gefnogi ein pobol greadigol ardderchog a sefydliadau celfyddydol hanfodol er mwyn gwasanaethu cymunedau Cymru ac ymestyn mas i’r byd,” meddai ar ôl y rhaglen.
“Mae angen i ni adeiladu ar y gwaith arloesol gwych rydym yn ei wneud ym meysydd y Celfyddydau ac Iechyd a Dysgu Creadigol.
“Byddai mwy o fuddsoddiad yn y celfyddydau yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles pobol ledled Cymru, ac yn creu sector fwy gwydn, gan gynyddu cyflogaeth a chael effaith economaidd sylweddol.
“Mae cymdeithas yn buddsoddi yn yr hyn mae’n gweld gwerth ynddo.
“Os ydym yn gweld gwerth yn y celfyddydau a’r buddiannau ddaw yn eu sgil, mae angen i ni ystyried yn ofalus a ydym yn hapus gyda sefyllfa lle mae buddsoddiad yn cael ei dorri gan 10.5% ychwanegol yn dilyn degawd o doriadau termau-real.”