“Allan o bawb oedd yn rhan o’r Sîn Gymraeg ddiwedd yr 80au, ddechrau’r 90au, mae’n debyg mai Emyr Ankst oedd yr un gadwodd y fflam ’danddaearol’ yn fyw.”

Dyna eiriau Rhys Mwyn wrth gofio Emyr Glyn Williams, sydd wedi marw’n 57 oed ar ôl brwydr â chanser.

Roedd Emyr Glyn Williams yn cael ei ystyried yn un o sbardunwyr diwylliannol mwyaf Cymru, gan hyrwyddo’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru’n ddiflino a rhyddhau dros 170 o recordiau gan amrywiaeth enfawr o grwpiau ac artistiaid – bron i gyd yn Gymraeg.

Sefydlodd Ankst ar y cyd â’i ffrindiau coleg Alun Llwyd a Gruff Jones yn 1988.

Rhannodd y cwmni’n ddau erbyn 1997, ar ôl rhyddhau cyfanswm o ryw 80 o recordiau.

Roedd yn rhedeg y label o garej ei gartref gafodd ei drawsnewid yn swyddfa a storfa, gan aros yn driw i’w ddelfryd annibynnol, nid-er-elw wrth gyflawni’r nod o hyrwyddo bandiau ifainc, arloesol ac anfasnachol.

Yn eu plith roedd y Super Furry Animals, Gorky’s Zygotic Mynci a’r Cyrff – tri band aeth yn eu blaenau i recordio’n ddiweddarach gyda labeli mawr y sîn gerddoriaeth fyd-eang.

Ar ôl rhannu’r cwmni, aeth Emyr Glyn Williams yn ei flaen i redeg Ankstmusik, yn rhyddhau recordiau, tra bod Alun Llwyd a Gruff Jones wedi sefydlu Anskt Management gan reoli a threfnu bandiau.

Caset-cartref gafodd ei recordio yn 1988 oedd record gynta’r label, ac aeth yr un ddiweddaraf ar werth cyn y Nadolig, sef LP finyl gan Edwin Stevens o Lanfairfechan.

Yr olaf erioed fydd Ankst rhif 171 – LP o sesiynau John Peel gan y rapwyr Llwybr Llaethog yn yr 1980au.

Yn ei waeledd, roedd Emyr Glyn Williams yn benderfynol y byddai’n dal i gael ei ryddhau, ac fe fydd ar gael yn fuan diolch i gymorth Alun Llwyd a Gruff Jones.

‘Cyfraniad anferth’

“Fe aeth cymaint o’r bandiau rydan ni’n eu cysylltu hefo Ankst ymlaen i lwyddiant rhyngwladol a thrwy Cŵl Cymru, ond fe arhosodd Emyr gydag Ankstmusic gan ryddhau recordiau feinyl fel sengl 7” The Dogbones, Mae Dy Ffrindiau i gyd (am dy ladd di), sengl oedd â fawr o obaith o gael ei chwarae ar y radio, a Duw a ŵyr faint o gopïau oedd Emyr am eu gwerthu?” meddai Rhys Mwyn, colofnydd cylchgrawn Golwg, wrth golwg360.

“Arhosodd Emyr yn ffyddlon i’w ffrind agos, David R Edwards (Dave Datblygu), gan barhau i ryddhau cynnyrch Datblygu tan y diwedd.

“Dyma wir ysbryd label ‘annibynnol’, a dyma wir ddiffiniad o maverick.

“Roedd cyfraniad Emyr Ankst i’r byd celf a cherddoriaeth tanddaearol yn anferth.”

  • Bydd Rhys Mwyn yn talu teyrnged i Emyr Glyn Williams yn ei golofn i Golwg yr wythnos nesaf.

Teyrngedau i ‘Emyr Ankst’

Bu farw Emyr Glyn Williams yn 57 oed ar ôl bod yn derbyn triniaeth am ganser