Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Emyr Glyn Williams, un o gyd-sylfaenwyr cwmni recordiau Ankst, fu farw’n 57 oed yn dilyn brwydr â chanser.

Roedd yn cael ei ystyried yn un o sbardunwyr diwylliannol mwyaf Cymru, gan hyrwyddo’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru’n ddiflino a rhyddhau dros 170 o recordiau gan amrywiaeth enfawr o grwpiau ac artistiaid – bron i gyd yn Gymraeg.

Sefydlodd Ankst ar y cyd â’i ffrindiau coleg Alun Llwyd a Gruff Jones yn 1988.

Rhannodd y cwmni’n ddau erbyn 1997, ar ôl rhyddhau cyfanswm o ryw 80 o recordiau.

Roedd yn rhedeg y label o garej ei gartref gafodd ei drawsnewid yn swyddfa a storfa, gan aros yn driw i’w ddelfryd annibynnol, nid-er-elw wrth gyflawni’r nod o hyrwyddo bandiau ifainc, arloesol ac anfasnachol.

Yn eu plith roedd y Super Furry Animals, Gorky’s Zygotic Mynci a’r Cyrff – tri band aeth yn eu blaenau i recordio’n ddiweddarach gyda labeli mawr y sîn gerddoriaeth fyd-eang.

Ar ôl rhannu’r cwmni, aeth Emyr Glyn Williams yn ei flaen i redeg Ankstmusik, yn rhyddhau recordiau, tra bod Alun Llwyd a Gruff Jones wedi sefydlu Anskt Management gan reoli a threfnu bandiau.

Caset-cartref gafodd ei recordio yn 1988 oedd record gynta’r label, ac aeth yr un ddiweddaraf ar werth cyn y Nadolig, sef LP finyl gan Edwin Stevens o Lanfairfechan.

Yr olaf erioed fydd Ankst rhif 171 – LP o sesiynau John Peel gan y rapwyr Llwybr Llaethog yn yr 1980au.

Yn ei waeledd, roedd Emyr Glyn Williams yn benderfynol y byddai’n dal i gael ei ryddhau, ac fe fydd ar gael yn fuan diolch i gymorth Alun Llwyd a Gruff Jones.

Ffilm

Cafodd nifer o ffilmiau eu rhyddhau hefyd ar DVD ar labeli Ankst ac Ankst Music, gan gynnwys Faust: Nobody Knows if It Ever Happened, sy’n dogfennu gig y grŵp Almaeneg arbrofol.

Fe wnaeth e gynhyrchu ac ysgrifennu’r ffilm ddwyieithog Y Lleill, enillodd wobr BAFTA Cymru yn 2005.

Yn 2015, Emyr Glyn Williams oedd awdur y gyfrol Is-Deitla’n Unig, sef golwg bersonol ar fyd ffilmiau rhyngwladol.

Bu farw’n dawel yn ei gartref ym Mhentraeth, Ynys Môn, ac mae’n gadael gwraig, y bardd Fiona Cameron, a dau o blant, Arthur ac Evan.

‘Diolch am ei gyfraniad, i’r diwedd’

Yn ôl y cerddor Gai Toms, “heb Ankst, fysa soundtrack ein harddegau yn boring iawn”.

“Diolch am ei gyfraniad, i’r diwedd,” meddai.

Dywed y cynhyrchydd David Wrench ei fod yn “drist iawn” clywed am golli Emyr Ankst.

“Bu Emyr yn rhan hanfodol o’r sîn gerddoriaeth Gymraeg ers bod yn un o sylfaenwyr label recordiau Ankst yn y 1980au a mynd yn ei flaen i redeg Ankstmusic.

“Chwaraeodd e ran hanfodol wrth ddarparu llwyfan i gynifer o’r bandiau Cymraeg rydyn ni’n eu hadnabod a’u caru gymaint, fel Datblygu, Super Furry Animals, Gorky’s Zygotic Mynci, Topper a.y.b.

“Roedd hefyd yn wneuthurwr ffilmiau, awdur a churadur medrus.

“Dangosodd Em ffydd ynof fi ar sawl achlysur, gan roi fy recordiau allan yn y 90au, a fe bron iawn oedd y person cyntaf i ‘nghyflogi fel cynhyrchydd yn gweithio gydag artistiaid fel MC Mabon a Zabrinski ddiwedd y 90au/ddechrau’r 2000au.

“Fe wnes i gyfarfod ag Em gyntaf pan oeddwn i’n hogyn 17 oed oedd wedi gor-gyffroi, ar daith i Gaerdydd gyda fy mand cyntaf i recordio fideo i raglen S4C, Fideo9.

“Cafodd Em ei neilltuo i edrych ar ein hôl ni tra ein bod ni eisiau rhedeg yn wyllt drwy dafarnau a chlybiau Caerdydd.

“Roedd y tro diwethaf i fi weld Ems yn syrpreis hyfryd o ganfod fy mod i ar yr un trên ag e o Lundain i Fangor.

“Fe wnaethon ni dreulio’r daith gyfan yn trafod cerddoriaeth a ffilm newydd.

“Bydd colled fawr ar ei ôl.

“Llawer o gariad i’w deulu.”

Sîn “lawer tlotach hebddo”

Band arall sydd wedi talu teyrnged i Emyr Glyn Williams yw Melys o Fetws-y-Coed.

“Fel egin fand â rhyw ddwy gân ar CDR, fe wnaethon ni ymweld â swyddfa recordiau Ankst (pan oedd hi yng ngogledd Cymru), ac roedden ni ar ben ein digon fod Em, Alun a Gruff yn ei hoffi ddigon fel eu bod nhw wedi ein harwyddo ni a’i rhyddhau hi fel Fragile.

“Roedd Em yn hogyn hyfryd oedd yn ein hannog ni a’n helpu ni i weithredu ar ein syniadau hanner call.

“Fe wnaeth o hyd yn oed ffilmio’r fideo ar gyfer ein sengl ‘Cuckoo’.

“Er nad oedden ni wedi gweld ein gilydd gymaint dros y blynyddoedd diwethaf, pan oedden ni’n taro ar draws ein gilydd, roedd hi bob amser yn hyfryd ei weld o.

“Roedd o’n allweddol i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg, a heb bobol fel Em a hogiau Ankst, byddai hi mewn cyflwr llawer tlotach heddiw.”

‘Neb dw i’n fwy dyledus iddyn nhw nag Emyr’

Dywed y cyflwynydd cerddoriaeth Adam Walton ei fod yn “teimlo’n sâl â thristwch”.

“Welais i mohono fe’n aml, ond roeddwn i’n ei garu drwy ein gohebiaeth a’r gerddoriaeth roedd e’n ei rhyddhau,” meddai.

“Mae’n un o’r ychydig iawn, iawn dw i wedi cyfarfod â nhw dros y blynyddoedd oedd â’r cyfuniad prin iawn o weledigaeth, gonestrwydd, dewder a gwyleidd-dra.

“Mae rôl fel fy un i’n cael ei hadeiladu ar weledigaeth ac aberth eraill, ac – o safbwynt labeli recordiau – does neb dw i’n fwy dyledus iddyn nhw nag Emyr.

“Mae bron pawb yn teimlo bod rhaid iddyn nhw gyfaddawdu er mwyn gwneud unrhyw fath o fywoliaeth allan o gerddoriaeth, ond nid Emyr.

“Roedd yn ysbrydoliaeth o ran hynny.

“Mae cymaint mwy i’r dyn hwn na ffigurau ffrydio, synchs, amser chwarae ar yr awyr a derbyniad corfforaethol / clîc.

“Rhedodd Ankstmusik â chalon artist, ac mae rheswm da iawn dros hynny.”