Roedd yn amlwg o’r cychwyn cyntaf na fyddai’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn gallu cyflwyno argymhelliad clir o blaid nac yn erbyn annibyniaeth i Gymru. Gyda’i aelodaeth yn cynnwys pobol sydd wedi arddel safbwyntiau cryf a chyhoeddus mor wahanol ar y pwnc ar hyd y blynyddoedd, byddai hyn allan o’r cwestiwn.

Fel yr esbonia yn ei gasgliadau, ei nod yn hytrach oedd “helpu rhoi sail i ddadl resymegol a phwyllog gyda dinasyddion am gyfleoedd a risgiau diwygio cyfansoddiadol”.

Yn sicr, mae wedi codi safon y drafodaeth mewn ffordd na wnaed cyn hyn. Mae’r adroddiad yn dangos sut y gall pobol wahanol eu barn eistedd efo’i gilydd i drafod a dadansoddi’r materion cyfansoddiadol sydd angen eu datrys. Mae hyn yn sicr o fod yn ffordd lawer mwy effeithiol o symud ymlaen na’r polareiddio sydd wedi bod yn nodweddu trafodaethau cyfansoddiadol yn llawer rhy aml yn y gorffennol.

Ar y naill law, mae unoliaethwyr wedi bod yn codi bwganod hollol wirion i fygu unrhyw drafodaeth ar fwy o annibyniaeth o Gymru. Ar yr un pryd, mae fel pe bai rhai cenedlaetholwyr naïf yn cael eu swyno i’r fath raddau â’r gair ‘annibyniaeth’ fel nad ydyn nhw’n teimlo angen i ystyried ystyr ymarferol hynny.

Mae agweddau o’r fath yn cael eu tanseilio’n llwyr gan adroddiad y Comisiwn, wrth iddo bwyso a mesur yn wrthrychol dri dewis posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru, sef:

  • Atgyfnerthu datganoli
  • Prydain ffederal
  • Cymru annibynnol.

Mae’r ffordd mae’n ymdrin ag annibyniaeth yn benodol yn gam pwysig ymlaen, wrth nodi ei fod “yn annhebygol o fod yn ddewis deuaidd rhwng aros yn y Deyrnas Unedig neu adael y Deyrnas Unedig, fel y cyflwynir weithiau”.

Cydnabod manteision a rhwystrau

Mae’n cydnabod y gallai fod manteision sylweddol i annibyniaeth, ond yn rhybuddio bod rhwystrau sylweddol i’w goresgyn cyn y gallai hynny weithio’n ymarferol.

“O ran atebolrwydd, sefydlogrwydd cyfansoddiadol a pholisïau economaidd priodol, byddai annibyniaeth, mewn egwyddor, yn cynnig mantais sylweddol dros ddiogelu neu atgyfnerthu datganoli,” medd yr adroddiad.

“Ond, mewn byd rhyng-ddibynnol, nid yw ‘cymryd rheolaeth’ ffurfiol yr un fath â chael rhyddid llwyr i lunio polisïau: bydd unrhyw wlad annibynnol, yn enwedig un sydd â phoblogaeth fach ac economi fach, yn wynebu cyfygniadau sylweddol.”

Mae’n tynnu sylw penodol at yr anawsterau sydd wedi cael eu hachosi gan Brexit, gan ddweud bod y ffaith nad yw Cymru na Lloegr yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd a’i farchnad sengl “yn ei gwneud yn anoddach i unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig arddel ei sofraniaeth ei hun drwy ddewis annibyniaeth”.

Mewn geiriau eraill, mae Brexit, wrth wahanu Prydain oddi wrth weddill Ewrop, wedi cyfyngu’n sylweddol ar y graddau o annibyniaeth y gall Cymru ei gael yn ymarferol: “Er mwyn sicrhau rhyddid llawn i bobol, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf groesi’r ffiniau, byddai angen marchnad sengl [â gweddill Prydain] a fyddai’n anochel yn cyfyngu ar ryddid gwladwriaeth newydd Cymru i wyro mewn sawl ffordd arwyddocaol oddi wrth y sefyllfa yn Lloegr.”

Y ddau ddewis arall

Nid yw’r Comisiwn yn cyflwyno argymhelliad ffurfiol o blaid nac yn erbyn y ddau opsiwn cyfansoddiadol arall chwaith. Er hyn, daw’n amlwg o’r casgliadau ar sail y gwahanol feini prawf fod y Comisiynwyr yn weddol unfrydol yn ffafrio atgyfnerthu datganoli fel dewis mwy ymarferol na cheisio troi’r Deyrnas Unedig yn wladwriaeth ffederal.

“Mae ateb ffederal yn edrych yn fwy heriol na naill ai mwy o ddatganoli neu annibyniaeth oherwydd byddai’n gofyn am newid cyfansoddiadol sylfaenol yn y ffordd y caiff Lloegr ei llywodraethu – ac nid yw’n ymddangos bod llawer o awydd am hynny ar hyn o bryd,” meddai.

Ar y llaw arall, mae’n gwbl glir hefyd fod angen cryfhau’n sylweddol y setliad datganoli presennol cyn y gall fod yn gynaliadwy, o ran gwell cydweithrediad rhwng seneddau Cymru a Phrydain yn ogystal â datganoli rhagor o bwerau. O wneud hynny, meddai’r adroddiad, byddai trefn o’r fath “yn cynnig manteision sylweddol dros yr opsiynau eraill” o ran capasiti a chost, sefydlogrwydd economaidd a chyllid cyhoeddus (ar ôl diwygio fformiwla Barnett).

Arolygon barn…

Yn sail i gasgliadau’r Comisiwn mae cyfres o ymarferiadau holi barn a gafodd eu cyflawni ganddo dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yn eu plith, mae arolwg barn a wnaed ar eu rhan gan Beaufort Research ym mis Mai y llynedd, gan gymharu ei ganlyniadau i arolwg oedd yn gofynion union yr un cwestiynau ar ran y Comisiwn ar Ddatganoli 10 mlynedd ynghynt.

Pan oedd gwahanol ddewisiadau fel annibyniaeth, datganoli mwy o bwerau, cadw pethau fel y maen nhw neu ddileu’r senedd, yn cael eu cynnig i’r ymatebwyr, roedd y gefnogaeth i annibyniaeth wedi codi o 9% yn 2013 i 15% y llynedd. Ar y pegwn arall, roedd union yr un cynnydd i’w weld hefyd ymysg y rhai a oedd yn credu y dylid diddymu Senedd Cymru. Gallwn fod yn weddol sicr fod y 15% gaiff ei nodi fel rhai sydd o blaid annibyniaeth – ac sy’n codi i 21% ymhlith pobol 16-34 oed – yn amcangyfrif mwy dibynadwy o wir raddau’r cynnydd na rhai o’r arolygon diweddar sydd wedi awgrymu cefnogaeth o 30% neu fwy. Mae hyn oherwydd bod hwn yn arolwg manwl sy’n cynnig dewisiadau penodol yn hytrach na’r rhai sy’n gofyn cwestiwn arwynebol ‘Ie/Na’ ar sail refferendwm cwbl ddychmygol ar y mater.

Yn ogystal â’r 15% dros annibyniaeth, mae’r arolwg yn dangos 38% o blaid mwy o bwerau i Senedd Cymru. Mae hyn yn cymharu â 53% ddeng mlynedd ynghynt. Ar y naill law, mae’n awgrymu bod cyfran o’r rheini a arferai gefnogi mwy o bwerau i Senedd Cymru wedi caledu eu barn a chefnogi annibyniaeth. Er hyn, mae cyfanswm y rheini sydd o blaid mwy o bwerau (cefnogwyr datganoli pellach a chefnogwyr annibyniaeth) wedi gostwng rywfaint o gymharu â 2013.

…a phaneli dinasyddion

Wrth ymgynghori â phaneli dinasyddion, dywed y Comisiwn nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw gynnig rhesymegol i wrthdroi datganoli, na sut y byddai hynny’n cael ei gyflawni na beth fyddai’n cymryd ei le. Maen nhw’n dod i’r casgliad fod y rhan fwyaf o’r rheini fyddai dros ddileu’r Senedd yn arddel y farn honno oherwydd eu gwrthwynebiad i rai o bolisïau presennol Llywodraeth Cymru.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi fod llawer o’r ymatebwyr oedd yn cefnogi annibyniaeth i Gymru heb ystyried cwestiynau manwl am ymarferoldeb annibyniaeth. “Pan ofynnwyd iddynt am faterion fel ffiniau, arian cyfred, neu gysylltiadau yn y dyfodol â Lloegr/ gweddill y DU er enghraifft, roedd cefnogwyr annibyniaeth yn aml yn rhoi atebion amwys,” medd yr adroddiad, gan ychwanegu bod rhai ohonyn nhw o’r farn y byddai annibyniaeth “yn gwella sefyllfa ariannol Cymru yn awtomatig”.

Dydi hyn ddim yn syndod, wrth gwrs, gan fod llawer o’r gefnogaeth fwyaf pybyr i annibyniaeth i’w phriodoli i resymau sy’n ymwneud yn bennaf â diwylliant a hunaniaeth.

Anodd, er hynny, ydi gweld sut y gall annibyniaeth fod yn ddewis creadwy a phoblogaidd os na fydd ymgyrchwyr drosto yn rhoi sylw mwy trylwyr i faterion ymarferol yn ogystal.

Dau wirionedd pwysig

Y casgliad amlwg wrth ddarllen yr adroddiad ydi mai atgyfnerthu datganoli a chynyddu pwerau Senedd Cymru ydi’r unig ddewis ymarferol sy’n cynnig ffordd ymlaen i Gymru ar hyn o bryd. Yr her bellach fydd rhoi pwysau ar y pleidiau gwleidyddol i weithredu argymhellion yr adroddiad ar gyflawni hyn. Mae’n fater o frys, gan fod y sefyllfa bresennol yn llawer rhy ddarostyngedig i fygythiadau posibl o Lundain.

Yn yr un modd, bydd angen argyhoeddi gwleidyddion, ymgyrchwyr a thrwch y boblogaeth o ddau wirionedd pwysig:

  • Yr unig lwybr posibl at annibyniaeth i Gymru fydd trwy ennill rhagor o bwerau i senedd Cymru.
  • Ar yr un pryd, ni fydd hyn yn gwneud annibyniaeth yn anochel chwaith.

Er eu bod yn ymddangos yn anghyson ar yr olwg gyntaf, mae pob rheswm yn cadarnhau eu bod yn asesiad cwbl gywir o sefyllfa wleidyddol y Gymru sydd ohoni.

Mae’r naill ddatganiad a’r llall yn cynrychioli negeseuon hollbwysig hefyd i’w pwysleisio wrth ddwy wahanol garfan o’r boblogaeth.

Er mwyn cynnal eu hymrwymiad cadarnhaol ac adeiladol i atgyfnerthu datganoli, bydd yn rhaid argyhoeddi cefnogwyr annibyniaeth mai cynyddu grym Senedd Cymru fesul tipyn ydi’r unig lwybr posibl at gyflawni eu nod. Ni fydd refferendwm ar y pwnc, ac ni fyddai gobaith o ennill pleidlais o’r fath p’run bynnag.

Lawn cyn bwysiced, mi fydd angen argyhoeddi carfan arall – sy’n dipyn mwy o ran nifer ar hyn o bryd – na fydd cryfhau Senedd Cymru yn arwain yn anochel at annibyniaeth lwyr yn y pen draw.

Wrth gwrs fod lle i ddadlau iach barhau rhwng y rheini sydd â’u bryd ar gryfhau safle Cymru o fewn y wladwriaeth Brydeinig a’r rhai fyddai am chwalu’r wladwriaeth honno’n llwyr. Mae’n debygol hefyd y bydd llawer o gefnogwyr annibyniaeth yn credu mai’r ffordd sicraf o ennill mwy o bwerau i Gymru ydi trwy barhau i ymgyrchu’n ddigyfaddawd dros annibyniaeth.

Boed hynny’n wir neu beidio, rhaid i bawb sylweddoli lle mae’r gwir raniad yng ngwleidyddiaeth Cymru heddiw. Does dim amheuaeth mai rhwng y rheini sydd o blaid mwy o rym i Gymru ar y naill law, a’r rheini sydd yn erbyn ar y llaw arall, mae’r rhaniad hwn.

Yn wyneb y bygythiadau sy’n wynebu Cymru ar hyn o bryd, mân lwch y cloriannau ydi unrhyw wahaniaethau barn eraill. Cynnal undod y glymblaid wlatgar hon o bobol sy’n cefnogi mwy o rym i Gymru fydd y flaenoriaeth bwysicaf o bell ffordd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.