Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y cyflwynydd teledu ac actor o Sanclêr ger Caerfyrddin, Owain Williams sy’n rhannu ei atgofion bwyd yr wythnos hon. Bu’n gyflwynydd y rhaglen i blant Stwnsh Sadwrn am 12 mlynedd ac mae ei gyfres newydd Taith Bywyd i’w weld ar S4C ar hyn o bryd. Mae Owain bellach yn byw yn Llundain ac ar fin ymddangos mewn sioe gerdd yn y West End…
Fi’n cofio cael bîns ar dost am y tro cynta’ i frecwast a’n meddwl pa mor cŵl (ond rhyfedd) o’dd e i gael bwyd twym yn y bore.
Mae mam yn hynod o chef – bwyd cartref Cymreig sydd wastad yn twymo’r galon a llanw’r bola. Felly fi’n ffan fawr o ginio rhost a phwdins.
Rhywbeth gyda chaws sy’n rhoi cysur i fi – mac ‘n cheese, spag bol neu lasagna. W, neu Biscoff yn syth mas o’r jar!
Lasagna crasboeth gyda llwyth o gaws a bara garlleg, yn Sgwâr St Mark yn Fenis, jyst yn gwylio’r byd yn mynd heibio fydde’r pryd bwyd delfrydol.
Fi’n hoffi uwd yn y Gaeaf, gyda mêl, banana a cinnamon; Squash oer yn yr Hâf; a thato potsh a grefi pan fydda’i adre.
Fel Antoni o Queer Eye, fi’n arbenigwr ar guacamole! Fi’n dda iawn am wneud brunch (fy hoff bryd o’r dydd) a bwyd Eidalaidd.
Yn ystod y pandemig, wnes i ofyn i mam am ei ryseitiau cinio dydd Sul a phwdin reis. Ysgrifennes i nhw lawr ar nodiade post-it a ma nhw’n saff mewn desg… Felly na, fydda’i ddim yn eu rhannu nhw. Cyfrinachau teuluol!
Taith Bywyd, S4C, nos Sul, 9pm