Mae trydydd cam prosiect i drawsnewid safle diffaith yn unedau busnes ym Môn wedi’i gwblhau, ond mae pryderon o ble ddaw rhagor o arian i ddatblygu unedau busnes yn dilyn Brexit.

Wrth siarad â golwg360, mae Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn a deilydd y portffolio Datblygiad Economaidd, yn dweud ei bod hi’n poeni am yr economi yn sgil y penderfyniad y dylai’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae 13 o unedau busnes wedi’u cwblhau yn ddiweddar o ganlyniad i arian o Ewrop, ac maen nhw ar gael i’w gosod yn dilyn estyniad i Ystad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi.

Cafodd y prosiect gwerth £6.2m ei ariannu’n rhannol gan y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru, yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid gan dîm Datblygiad Economaidd Cyngor Môn.

Wedi’i drawsnewid dros y ddwy flynedd diwethaf, mae’r safle bellach yn cynnwys cyfanswm o 23 o unedau busnes.

Datblygu’r economi

Yn ôl Llinos Medi, bydd y datblygiad hwn o fudd i’r economi ac yn creu swyddi, yn enwedig y sector breifat sydd heb ddatblygu ar yr ynys yn y gorffennol.

Mae hi’n ddiolchgar am yr arian, meddai, ond yn bryderus ynghylch lle ddaw’r arian i gefnogi economi’r ynys yn y dyfodol.

Dywed fod gwariant ar yr ynys wedi bod yn is wrth i gwmnïau mawr adael ers Brexit, ond y gobaith yw y bydd yr unedau’n hwb i’r economi unwaith eto, gyda’r unedau wrth galon y gymuned ac yn cynnig gobaith am ragor o swyddi.

Bydd yr unedau’n cael eu hysbysebu i fusnesau, a bydd proses ymgeisio amdanyn nhw, gan roi cyfle i fusnesau ddatblygu ymhellach.

Mae hyrwyddo a datblygu’r economi yn un o’r chwe amcan strategol sydd wedi eu hamlygu yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2023-2028.

Wedi eu lleoli yng nghanol Stad Ddiwydiannol Penrhos, mae’r unedau busnes newydd yn cynnwys nifer o adnoddu deniadol:

  • pwyntiau gwefru (EV) ar y safle
  • safle sy’n agos at yr A55 a’r porthladd
  • maen nhw wedi’u cymeradwyo ar gyfer defnydd B1, B2 a B8
  • unedau sy’n amrywio o 115 metr sgwâr (1,241 troedfedd sgwâr) i 230 metr sgwâr (2,483 troedfedd sgwâr).
  • cyfloedd i fusnesau datblygu a ehangu

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ôl Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, bydd yr arian Ewropeaidd o fudd i’r economi, busnesau a swyddi.

“Mae hi’n wych gweld Stad Ddiwydiannol Penrhos Caergybi yn cael ei chwblhau,” meddai.

“Diolch i gyllid Ewropeaidd hanfodol, mae Cyngor Môn a Llywodraeth Cymru wedi gallu uwchraddio isadeiledd busnes Caergybi, gan helpu i ddarparu busnesau lleol â chyfleoedd i ddatblygu ac ehangu.

“Bydd y datblygiad yn helpu i greu swyddi o ansawdd da ac yn rhoi hwb i’r gadwyn gyflenwi leol ar yr ynys.

“Edrychaf ymlaen at weld mwy o fusnesau yn symud i mewn.”